Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Content Page Template

Mae’r dudalen hon wrthi’n cael ei datblygu.

Data’r prosiectau adfywio cyfredol

Mae prosiectau ERDF (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop) ac ESF (Cronfa Gymdeithasol Ewrop) yn parhau. Gallant barhau tan fis Rhagfyr 2023, ac felly tan hynny, bydd y ffigurau isod yn cael eu diweddaru’n gyson.

Rhaglenni ERDF ac ESF (2014 i 2020)

Mae disgwyl i gyllid o £2 biliwn gan yr UE gefnogi buddsoddiad cyfan o fwy na £3 biliwn. Mae’r data cynnar hyd at 31 Mai 2022 yn dangos y canlynol:

  • 692 o fentrau wedi’u cynorthwyo
  • 224 o fentrau wedi’u creu
  • 2,026 o swyddi wedi’u creu
  • 16,071 o gyfranogwyr wedi’u cynorthwyo
  • 2,026 o gyfranogwyr wedi’u cefnogi i gyflogaeth
  • 6,794 o gyfranogwyr yn ennill cymwysterau
  • 186 o gyfranogwyr mewn addysg neu hyfforddiant

Cyllid ESF

Rydyn ni wedi sicrhau £13m o’r ESF i sbarduno rhaglenni cyflogadwyedd. Mae pwrpas yr arian ydy cefnogi pobl ifanc sy’n wynebu risg o beidio â bod mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET) drwy gyfrwng y canlynol:

  • Ysbrydoli i Gyflawni
  • Ysbrydoli i Weithio
  • Pontydd i Waith 2
  • Sgiliau Gweithio i Oedolion
  • Cymunedau am Waith
  • Meithrin, Cymhwyso, Ffynnu

Cyllid ERDF

Rydym wedi sicrhau mwy na £13.2m mewn grantiau eisoes i weithredu’r canlynol:

  • Cynllun Gwresogi Lleol Caerau
  • Hwb Menter Pen-y-bont ar Ogwr (yn cefnogi datblygiad strategol canolfannau menter ym Ogwr ac ar Stad Ddiwydiannol Village Farm)
  • PRIF (Ffocws Buddsoddi Tref Porthcawl)

Chwilio A i Y