Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Grant Cychwyn Busnes

Mae’r Gronfa Cychwyn Busnes bellach wedi cau.

Dyma gynllun grant hyblyg a ddarperir trwy bartneriaeth gyda UK Steel Enterprise a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'n darparu cymorth ariannol i ficrofusnesau newydd neu bresennol sydd wedi'u lleoli, neu'n bwriadu lleoli, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae microfusnes yn un sydd â llai na deg cyflogai a chyfanswm trosiant neu fantolen o lai na £2 filiwn.

Gellir ystyried busnesau sydd newydd gychwyn a busnesau yn eu tair blynedd gyntaf o fasnachu. Rhaid i'r busnes fod wedi'i leoli ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Efallai y byddwn yn ceisio ad-daliad os bydd y busnes yn symud i ffwrdd o'r ardal cyn pen blwyddyn ar ôl derbyn cyllid.

Y rhai nad ydynt yn gymwys i ymgeisio yw:

  • sefydliadau neu grwpiau nad ydynt yn ymgymryd â gweithgareddau masnachu
  • grwpiau gwleidyddol neu grefyddol
  • clybiau a chymdeithasau
  • sefydliadau gwirfoddol
  • y rhai sy'n derbyn arian uwchlaw trothwyon cymorth gwladwriaethol

Gallai costau cymwys gynnwys:

  • offer cyfalaf
  • offer cyfrifiadurol
  • datblygu gwefannau
  • gwaith adeiladu i adeiladau busnes

Mae yna rai costau na all y cynllun eu hariannu, fel:

  • Unrhyw gostau a gododd cyn cael cymeradwyaeth ffurfiol.
  • Unrhyw gostau refeniw
  • TAW neu unrhyw drethi eraill.
  • Costau cyfreithiol/Gwaith yn cael ei wneud fel gofyniad statudol.
  • Aelodaeth o Gyrff Proffesiynol.
  • Ail-ariannu dyledion drwg o unrhyw fath, neu rwymedigaethau’r cwmni nad ydynt yn gysylltiedig â'r prosiect.
  • Costau hyfforddi.
  • Costau ceisiadau cynllunio.
  • Yswiriant, cyflogau neu orbenion busnes gan gynnwys cyflogau a chostau staff eraill.
  • Paratoi cynlluniau ac astudiaethau, e.e. Cynlluniau Busnes/Astudiaethau Dichonoldeb.
  • Costa marchnata/hysbysebu (taflenni, cardiau busnes ac ati)
  • Stoc neu eitemau na ellir eu hailddefnyddio.
  • Gwaith a wneir ar eiddo domestig, naill ai adeilad newydd neu adnewyddiad neu estyniadau/ystafelloedd gardd/cabanau pren.

Gall y grant ddarparu hyd at 50% o gostau cymwys prosiect.

Y grant lleiaf y gellir ei gael £250 a'r grant mwyaf sydd ar gael yw £4,000 felly uchafswm cost y prosiect yw £8,000 (heb gynnwys TAW).

Dyfernir y grant ar sail y cyntaf i'r felin, ond rhaid i bob ffurflen gydymffurfio a chynnwys y wybodaeth berthnasol; bydd yn rhaid lanlwytho peth o’r wybodaeth honno.

Sylwer mai dim ond uchafswm o bum eitem y byddwn yn eu hystyried fesul cais.

Taflenni ffeithiau cychwyn busnes

Gallwch gael taflenni ffeithiau cychwyn busnes ar wahanol fathau o weithgareddau busnes trwy wefan Busnes Cymru, neu gysylltu â’r llinell gymorth ar 03000 6 03000.

Ni ddylid ysgwyddo unrhyw wariant cyn i grant gael ei gymeradwyo, gan na ellir dyfarnu'r grantiau yn ôl-weithredol. O dan amgylchiadau arferol dim ond un cais am gyllid y byddwn yn ei gefnogi o dan y Gronfa Cychwyn Busnes.

NI ddylai cyfarwyddwr/cyfarwyddwyr busnes y busnes feddu ar fuddiant/cyfranddaliad yn unrhyw un o'r cwmnïau sy'n cyflenwi dyfynbrisiau/amcangyfrifon ar gyfer y cais am grant. Rhaid i'r Ymgeisydd dderbyn telerau ac amodau'r grant trwy gwblhau a dychwelyd y Dystysgrif Derbyn y byddwn yn ei rhoi os bydd eich cais am grant yn llwyddiannus. Peidiwch â bwrw ymlaen â'ch prosiect nes eich bod wedi dychwelyd y Dystysgrif Derbyn.

Pe na bai'r prosiect yn symud ymlaen o fewn y cyfnod a nodir yn y llythyr cynnig, byddai'r grant yn dod i ben yn awtomatig.

NI fydd eitemau a brynir trwy gerdyn credyd/hurbwrcasu/cytundebau credyd estynedig/prydlesi cyllid ac arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant. Mae angen gwneud pob pryniant o'r CYFRIF BANC a restrir ar y ffurflen gais y mae'n rhaid iddo fod yn enw'r busnes neu'r ymgeisydd.

Pe bai'r cais yn llwyddiannus, telir yr arian grant yn uniongyrchol i GYFRIF BANC yr Ymgeisydd neu'r Busnes ar ôl derbyn anfonebau a gweld datganiadau banc i gadarnhau taliad a monitro boddhaol.

Ni fydd grant yn cael ei gynnig na'i dalu os yw'r Busnes neu'r Ymgeisydd mewn ôl-ddyledion mewn perthynas ag unrhyw daliad i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gwneir gwiriadau yn ôl yr angen, i'w penderfynu gan eich swyddog prosiect.

Chwilio A i Y