Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Methu talu ardrethi busnes

Os byddwch yn methu talu erbyn y dyddiad dyledus, cewch nodyn atgoffa. Rhaid talu’r nodyn atgoffa o fewn saith diwrnod neu bydd y cyfanswm sy’n ddyledus yn daladwy. Os na chaiff y swm llawn ei dalu, byddwn yn cyflwyno gwys llys a rhaid talu’r costau.

Wedyn, os na chaiff y taliad ei wneud yn llawn gyda chostau’r wys, gwneir cais am Orchymyn Atebolrwydd. Gwneir hyn yn eich absenoldeb os na fyddwch yn mynychu’r llys ynadon.

Os na fyddwch yn talu’r swm yn llawn neu’n cysylltu â’r swyddfa dreth o fewn y 14 diwrnod canlynol, byddwn yn defnyddio asiantaeth orfodi. Wedyn byddwch yn mynd i gostau pellach am bob Gorchymyn Atebolrwydd gaiff ei anfon, yn unol â’r amserlen isod.

Y tabl o ffioedd gorfodi.
Cam y ffi Ffi sefydlog Canran ffioedd
£0 i £1,500 >£1,500
Cam gweinyddu/cydymffurfio (gweithredol pan fydd cwmni gorfodi’n derbyn cyfarwyddyd) £75 0% 0%
Cam gorfodi (gweithredol pan mae asiantaeth gorfodi’n ymweld am y tro cyntaf) £235 0% 7.5%
Gwerthu (gweithredol yn ystod yr ymweliad cyntaf at ddiben cludo nwyddau i’w gwerthu) £110 0% 7.5%

Rheoliadau Cymryd Rheolaeth ar Nwyddau (Ffioedd) Ionawr 2014 Deddf Tribiwnlysoedd 2007 sydd wedi pennu’r ffioedd uchod. Felly, nid oes modd eu trafod.

Os cewch unrhyw anawsterau gyda gwneud taliadau, cysylltwch â ni ar unwaith i drafod y sefyllfa, gan ddefnyddio’r manylion isod.

Cyswllt

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643643. Dewiswch opsiwn tri.
Cyfnewid testun: Rhowch 18001 cyn bob un o’n rhifau ffôn.
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Oriau agor:
Llun i Iau: 8:30am i 5pm.
Gwener: 8:30am i 4:30pm.

Chwilio A i Y