Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gostyngiadau i fusnesau bach

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynllun gostyngiad i fusnesau bach sy’n newydd a pharhaol ar 1 Ebrill 2018. Mae eiddo busnes sydd â gwerth trethadwy o hyd at £6,000 yn cael gostyngiad o 100%. Mae’r rhai â gwerth trethadwy sydd rhwng £6,001 a £12,000 yn cael gostyngiad ar sail raddol, o 100% i sero.

Dyma amcangyfrif o’r gostyngiad graddol
Gwerth trethadwy Canran y gostyngiad
0 i 6,000 100
7,000 83.4
8,000 66.6
9,000 50.0
10,000 33.3
11,000 16.6
12,011 0

Cymhwysedd am ostyngiad

Mae eiddo gyda deiliaid yn cael gostyngiadau busnes yn awtomatig, a bydd yr hysbysiad talu’n dangos hyn. Os yw’r trethdalwr yn gyfrifol am fwy na dau eiddo ar restr ardrethi annomestig lleol sengl, dim ond hyd at ddau eiddo o’r fath gaiff ostyngiad.

Rhaid i rai mathau o eiddo busnes, fel y rhai sy’n seiliedig ar y defnydd o eiddo, ddweud wrthym am eu cymhwysedd cyn gellir dyfarnu gostyngiad. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Cysylltu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643643. Dewiswch opsiwn tri.
Cyfnewid testun: Rhowch 18001 cyn bob un o’n rhifau ffôn.
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Oriau agor:
Llun i Iau: 8:30am i 5pm.
Gwener: 8:30am i 4:30pm.

Croesewir galwadau yn y Gymraeg.

Chwilio A i Y