Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

​Trawsgrifiad fideo Sophie 10 oed Mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau

Mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau

Sophie 10 oed

Haia, Sophie ydi fy enw i. Rydw i’n 10 oed. Pan oeddwn i’n 8 oed mi es i fyw gyda gofalwr maeth. Cyn hynny roeddwn i’n byw gyda mam a fy mrawd bach. Bu farw ein tad pan o’n i’n 6 ac roedd hyn yn golygu bod mam yn drist ofnadwy.

Doedd hi ddim yn siarad efo ni fel roedd hi cyn hynny ac mi ddechreuodd hi ein gadael ni ar ein pennau ein hunain lot. Weithiau pan oedd hi’n dod adref roedd hi’n edrych yn rhyfedd ac actio’n od.

Roedd hi’n cysgu lot felly doeddwn i ddim yn mynd i’r ysgol. Byddai pobl yn dod i’r tŷ i weld mam ond lot o’r amser doedd hi ddim adref neu roedd hi’n cysgu ac roedd hi’n dweud wrtha i na ddylwn i fyth ateb y drws.

Mi wnes i drio gwneud paned o de i mi fy hun unwaith a brifo fy mraich pan drodd y sosban. Roedd yn rhaid i ni fynd i’r ysbyty ac aros yn hir i weld rhywun. Dywedodd mam fod ‘na bobl yn mynd i edrych ar fy ôl i ac na fyddwn i’n dod adref gyda hi. Roedd gen i ofn a dim syniad beth oedd am ddigwydd. Mi es i gyda dynes o’r enw Maggie i’w thŷ hi.

Dywedodd mai gofalwr maeth oedd hi ac mai ei gwaith oedd edrych ar ôl plant pan oedd eu rhieni ddim yn gallu. Roedd ‘na ferch yn aros yno hefyd oedd yn hŷn na fi. Dywedodd ei bod hi yno ers tipyn go lew a’i bod hi’n aros yno nes byddai hi’n cael ei thŷ ei hun. Roedd hyn yn fy nychryn am nad o’n i’n gwybod a fyddwn i’n byw efo fy mam eto.

Dywedodd Maggie, mam a fy ngweithiwr cymdeithasol wrthyf fod angen gwneud rhai pethau i geisio helpu fy mam i allu edrych ar fy ôl i eto. Roedd pethau’n digwydd yn wahanol yn nhŷ Maggie. Roedd Maggie’n dweud bod arna i angen trefn reolaidd. Byddai’n fy neffro yn y bore, amser cawod a brwsio dannedd yna i’r ysgol.

Doeddwn i ddim yn hoffi hyn i ddechrau. Doeddwn i ddim yn gweld pam oedd angen imi wneud y pethau yma, gan nad oedd yn rhaid imi eu gwneud efo mam. Weithiau mi fyddwn i’n gwylltio ac weithiau roeddwn i’n drist. Ond byddai Maggie bob amser yn rhoi amser i egluro pam ei bod hi’n gofyn imi wneud rhywbeth.

Mi fyddai wyrion ac wyresau Maggie hefyd yn dod i ymweld ac roedden nhw’n mynd i’r ysgol hefyd. Roeddwn i wrth fy modd yn gweld fy mam.

Byddai Maggie yn mynd â fi i’w gweld hi. Dangosodd Maggie i fy mam sut i edrych fy mrawd bach a minnau a sut i’n cadw ni’n ddiogel. Mi aeth hi hefyd i ddosbarthiadau er mwyn dysgu sut i fod yn rhiant gwell byth.

Dydy Maggie ddim yn dod i’n gweld ni gymaint erbyn hyn, ond wna i fyth anghofio faint o help roddodd hi i fy mrawd bach a minnau.

#trawsnewidtrwyfaethu

Chwilio A i Y