Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cefnogaeth i ffoaduriaid Wcráin

Yn dilyn ymateb hynod gadarnhaol pobl Cymru i gynllun Uwch-Noddwyr Llywodraeth Cymru, sydd wedi arwain at gyflwyno mwy na 2000 o fisas hyd yma, mae Gweinidogion wedi cyhoeddi saib gweithredol dros dro ar geisiadau newydd yn ystod mis Mehefin. Diben y saib dros dro yw sicrhau bod pobl sy’n cyrraedd, a’r rhai sydd eisoes yma yng Nghymru, yn parhau i gael lefel ragorol o ofal a chefnogaeth.

Bydd y saib dros dro hwn yn dechrau o ddydd Gwener 10 Mehefin a bydd Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn defnyddio’r amser hwn i ganolbwyntio ar sefydlu trefniadau ar gyfer llety cam nesaf a darparu gwasanaethau cofleidiol ehangach ledled Cymru.

Bydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithredu fel ‘uwch noddwr’ nawr yn y cynllun ‘Cartrefi i Wcráin’ ledled y DU.

Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi achosi i filoedd o bobl ffoi o’u cartrefi. Rydym yn sefyll i gefnogi pobl Wcráin sy'n gwrthsefyll yn ddewr y weithred ryfel greulon hon.

Rydym yn deall y bydd llawer o bobl yng Nghymru eisiau gwneud popeth o fewn eu gallu i’w helpu yn eu hawr o angen.

Wcráin Ymateb ymholiadau

Chwilio A i Y