Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal diwrnod agored

Ddydd Sadwrn 18 Chwefror bydd Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal diwrnod agored lle bydd y staff wrth law i dywys pobl o amgylch yr ystafell seremoni anhygoel ac i ateb cwestiynau ynglŷn â’r broses archebu neu unrhyw seremonïau sydd ar y gorwel.

Bydd y diwrnod agored yn cael ei gynnal rhwng 10am ac 1pm yn y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel. Mae’r ystafell seremoni yn hollol hygyrch ac yn addas i bobl ag anableddau o bob math.

Symudodd y Swyddfa Gofrestru i’r Swyddfeydd Dinesig ym mis Gorffennaf 2020. Gall ystafell seremoni Swit Pen-y-bont, sydd newydd gael trwydded, ddal hyd at 50 o westeion. Ers i’r Swyddfa Gofrestru symud, mae mwy na 500 o seremonïau wedi’u cynnal yno, yn cynnwys seremonïau ar gyfer parau o bob oed ac o bob cwr o’r sir.

Mae’r ystafell yn elwa o system sain amgylchynol fodern sy’n galluogi’r parau i ddewis o blith amrywiaeth eang o gerddoriaeth. Roc, pop, clasurol – y parau piau’r dewis.

Hefyd, mae gan y cyfleuster newydd ardd – lle addas iawn i dynnu lluniau cyn ac ar ôl y seremoni.

Ceir man parcio ar gyfer un car ac mae gorsafoedd trenau a bysiau gerllaw. Yn ogystal, ceir nifer o feysydd parcio yng nghanol y dref o fewn pellter cerdded, a hyd at 1 Ebrill 2023 gellir parcio’n rhad ac am ddim am deirawr ym maes parcio aml-lawr y Rhiw.

Mae’r Swyddfa Gofrestru ar gael ar gyfer amrywiaeth o seremonïau, fel priodasau, partneriaethau sifil, seremonïau enwi, seremonïau ymrwymo a seremonïau adnewyddu addunedau priodas. Hefyd, cynhaliwyd seremonïau dinasyddiaeth gydag Uchel Siryf Morgannwg Ganol, cynrychiolwyr yr Arglwydd Raglaw a Maer Pen-y-bont ar Ogwr yn y cyfleuster.

Yn ôl Mr a Mrs Patterson, a briododd yn y Swyddfa Gofrestru yn ddiweddar: “Roedd profiad cyffredinol y seremoni briodas yn wych. Gwnaed i’r ddau ohonom deimlo’n gartrefol a byddem yn argymell Pen-y-bont i bwy bynnag sy’n ystyried priodi.”

Mae’n gyfnod cyffrous iawn i Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr ac rydw i’n ymfalchïo’n fawr yn ein cyfleusterau newydd. Cofiwch ddod draw i gael cipolwg ar ein hystafell seremoni newydd ac i weld sut allwn ni ddathlu diwrnod pwysicaf eich bywyd gyda chi.

Medd Jodie Absalom, Cofrestrydd Arolygol:

Os na allwch fynychu’r diwrnod agored ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â registrar@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 642391.

Chwilio A i Y