Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Grant Hanfodion Ysgol ar gael i gefnogi dysgwyr cymwys

A ninnau ar drothwy blwyddyn ysgol newydd, caiff rhieni a gofalwyr eu hatgoffa i wirio a ydynt yn gymwys i dderbyn Grant Hanfodion Ysgol sy’n cynnig cefnogaeth i brynu eitemau angenrheidiol megis gwisg ysgol.

Mae grant Llywodraeth Cymru ar gael i bob grŵp blwyddyn ysgol gorfodol o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11 a bydd pob dysgwr cymwys yn derbyn grant o £125. Fodd bynnag, bydd disgyblion ym Mlwyddyn 7 yn derbyn £200 oherwydd y cynnydd yng nghostau dechrau ysgol uwchradd.

Gellir defnyddio’r grant ar gyfer:

  • prynu gwisg ysgol ac esgidiau,
  • prynu cyfarpar a chit chwaraeon,
  • talu am weithgareddau addysgol, yn cynnwys gwersi cerddorol, tripiau ysgol a chlybiau ar ôl ysgol,
  • prynu hanfodion ar gyfer y dosbarth yn cynnwys beiros, pensiliau a bagiau ysgol,
  • prynu gliniadur neb dabled os nad oes modd eu benthyg o’r ysgol.

Bydd dysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, yn debygol o fod yn gymwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol hefyd.  Fodd bynnag, mewn rhai achosion, efallai y bydd gofyn i rieni/gofalwyr hawlio buddion eraill hefyd. 

Mae’r holl feini prawf ar gael i’w gweld ar wefanycyngor ac mae hawl gan deuluoedd i wneud cais unwaith y flwyddyn ar gyfer pob plentyn. Mae cronfa 2023 i 2024 ar agor nawr a bydd yn cau ar 31 Mai 2024. 

Hoffwn annog pob teulu sy’n gymwys i ymgeisio am y grant ac mae’n wych fod y gefnogaeth yma ar gael i’w defnyddio ar gyfer ystod eang o eitemau.

Mae'n holl bwysig nad oes unrhyw ddysgwr dan anfantais am resymau ariannol a bydd grantiau fel hyn yn rhoi hwb i gymaint o bobl ifanc ledled y fwrdeistref sirol.

Mae’n werth nodi hefyd bod y gronfa ar agor nid yn unig ar ddechrau’r flwyddyn ysgol ond hyd at ddiwedd Mai 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:

Er mwyn ymgeisio am y Grant Hanfodion Ysgol, ewch ar wefany cyngor.

Chwilio A i Y