Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Goleuo swyddfeydd y Cyngor i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost eleni drwy oleuo prif adeilad y cyngor heno, ac yn annog trigolion i ymuno â’r Maer a goleuo cannwyll gofio gartref.

Bydd y Maer, y Cynghorydd Martyn Jones, yn goleuo’r gannwyll ar 27 Ionawr wrth i’r wlad oedi am funud i dalu teyrnged i’r unigolion a gafodd eu herlid a'u lladd yn ystod yr Holocost ac achosion diweddarach o hil-laddiad ledled y byd.

Am 4pm, anogir aelwydydd ledled y fwrdeistref sirol i ymuno â’r Maer, a gweddill y DU, wrth oleuo cannwyll a’i osod yn ddiogel yn eich ffenestr, er mwyn cofio am yr unigolion a gafodd eu lladd oherwydd pwy oeddynt, a hefyd i sefyll yn erbyn rhagfarn a chasineb heddiw.

Thema eleni, wedi’i gosod gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost yw ‘Pobl Arferol’. Mae'r ymddiriedolaeth yn nodi bod pobl gyffredin yn rhan o bob agwedd ar yr Holocost, erledigaeth y Natsïaid o grwpiau eraill, ac yn yr hil-laddiadau a ddigwyddodd yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Roedd pobl arferol yn gyflawnwyr, yn wylwyr, yn achubwyr, yn dystion - ac roedd pobl arferol yn ddioddefwyr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth.

Rydym yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost eleni drwy oleuo ein prif adeilad Swyddfeydd Dinesig fel arwydd o barch at yr holl fywydau a gollwyd oherwydd yr Holocost a hil-laddiadau dilynol.

Rydym hefyd yn ymuno ag Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost drwy annog y cyhoedd i oleuo cannwyll a’i gosod yn ddiogel mewn ffenestr am 4pm heddiw, ynghyd ag edrych yn ôl ar rai o’r digwyddiadau rydym wedi’u cynnal i nodi’r diwrnod yn y gorffennol. Mae'n bwysig ein bod i gyd yn myfyrio, cofio a dysgu o'r gorffennol, a dyma pam ein bod ni ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod Diwrnod Cofio'r Holocost bob blwyddyn.

Yn anffodus, nid rhywbeth mewn llyfrau hanes yw gwrth-semitiaeth, casineb a hil-laddiad, mae'n dal i ddigwydd ar draws y byd. Felly, mae angen i bawb ddod ynghyd fel bodau dynol, a gofyn i’n hunain, beth allwn ni ei wneud gyda’n gilydd, i sefyll yn erbyn pob ffurf ar ragfarn a chasineb, a chreu byd mwy diogel ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Jane Gebbie:

Sefydlwyd Diwrnod Cofio'r Holocost ar 27 Ionawr 2000, pan ddaeth cynrychiolwyr o 46 o wledydd ledled y byd ynghyd yn Stockholm i drafod ymchwil, cofio ac addysgu'r Holocost. Ar ddiwedd y cyfarfod hwn, llofnododd yr holl fynychwyr ddatganiad yn ymrwymo i barhau i gofio am yr unigolion a gafodd eu lladd yn yr Holocost.

Mae trigolion hefyd yn cael eu hannog i ddarllen Saith Datganiad o Ymrwymiad ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost:

  1. Rydym yn cydnabod bod yr Holocost wedi ysgwyd sylfaeni gwareiddiad modern. Bydd ei gymeriad a'i arswyd digynsail yn dal ystyr rhyngwladol am byth.
  2. Credwn fod rhaid i’r Holocost fod â lle parhaol yng nghyd-gof ein cenedl. Rydym yn anrhydeddu’r goroeswyr sydd dal yma gyda ni, ac yn ailddatgan ein nodau a rennir o gyd-ddealltwriaeth a chyfiawnder.
  3. Rhaid i ni sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall beth oedd achosion yr Holocost ac yn myfyrio ar ei goblygiadau. Rydym yn gwneud adduned i gofio dioddefwyr erledigaeth y Natsïaid a phob hil-laddiad.
  4. Rydym yn gwerthfawrogi’r unigolion sydd wedi aberthu eu bywydau i ddiogelu neu achub dioddefwyr, fel maen prawf gallu dyn i fod yn dda yn wyneb drwg.
  5. Rydym yn cydnabod bod dynoliaeth yn parhau i ymladd yn erbyn y gred bod hilcrefyddanabledd neu rywioldeb yn gwneud bywydau rhai pobl yn llai gwerthfawr nag eraill. Mae hilladdiad, gwrth-semitiaethhiliaethsenoffobia a gwahaniaethu’n parhau hyd heddiw. Mae gennym gydgyfrifoldeb i ymladd yn erbyn y cythreuliaid hyn.
  6. Rydym yn addo i gryfhau ein hymdrechion i hyrwyddo addysg ac ymchwil ynghylch yr Holocost ac achosion eraill o hil-laddiad. Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod gwersi digwyddiadau o'r fath yn cael eu dysgu'n llawn.
  7. Byddwn yn parhau i annog cofio’r Holocost drwy gynnal Diwrnod Cofio’r Holocost yn flynyddol. Rydym yn condemnio cythreuliaid rhagfarn, gwahaniaethu a hiliaeth. Rydym yn rhoi gwerth ar gymdeithas rydd, oddefgar a democrataidd.

Er mwyn cofrestru ar gyfer seremoni Cofio’r Holocost y DU, ewch i: https://www.hmd.org.uk/take-part-in-holocaust-memorial-day/ukhmd/

Chwilio A i Y