Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyflwyno ymgyrch presenoldeb ysgol er mwyn cyd-fynd â dechrau’r flwyddyn ysgol newydd

Arweinydd y Cyngor, Huw David, gyda Phennaeth Coleg Cymunedol y Dderwen, Tracey Wellington, a disgyblion, y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Heather Griffiths, yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell a’r Rheolwr Grŵp ar gyfer Addysg a Chymorth i Deuluoedd, Mark Lewis; yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen.

Mae disgyblion ledled y fwrdeistref sirol wedi dod ynghyd i drafod pwysigrwydd mynychu ysgol yn rheolaidd, mewn ffilm fer, newydd, sydd wedi’i chyflwyno gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn cyflwyno ei ymgyrch presenoldeb yn yr ysgol.

Yn cynnwys plant o Goleg Cymunedol y Dderwen, Ysgol Gynradd Garth, Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ac Ysgol Gynradd Coety, mae’r ffilm yn canolbwyntio ar fuddion ysgol y tu hwnt i ddysgu, gyda’r plant yn egluro pam mae mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn hanfodol o ran eu hiechyd meddwl, eu llesiant, eu cyflawniad a’u datblygiad cyffredinol.

Gan ddefnyddio’r negeseuon ‘Mynychu i Gyflawni’ a ‘Colli Ysgol, Colli Mas’, mae'r ffilm yn annog disgyblion, rhieni a gofalwyr i ystyried effaith negyddol colli ysgol yn rheolaidd ar eu graddau, eu haddysg a’u cyfleoedd swyddi yn y dyfodol. Er enghraifft, bydd colli 17 diwrnod o ysgol yn achosi gradd is ar draws pob pwnc ar lefel TGAU.

Wrth bwysleisio pa mor hanfodol bwysig yw hi i blant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fynychu'r ysgol pryd bynnag fo modd, mae'r ffilm yn tynnu sylw at yr adnoddau sydd ar gael gan ysgolion a'r awdurdod lleol i deuluoedd a all fod yn ei chael hi'n anodd mynychu.

Mae sicrhau bod disgyblion yn mynychu ysgol yn rheolaidd ac ar amser yn hanfodol wrth helpu plant i lwyddo yn y dyfodol, yn ogystal ag er budd eu datblygiad a’u llesiant yn gyffredinol.

Er bod cyfraddau presenoldeb ysgolion ledled y fwrdeistref sirol wedi gwella ar ôl y pandemig, mae presenoldeb yn parhau i fod yn is o lawer mewn cymhariaeth â 2019.

Wrth weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, rydym eisiau sicrhau’r teuluoedd hynny sy’n ei chael hi’n anodd mynychu’r ysgol bod cymorth ar gael iddynt, ac annog pobl sy’n ceisio help i gysylltu â’u hysgol.

Y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, Aelod Cabinet dros Addysg

I wylio’r ffilm, ac i gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr ymgyrch, ewch i dudalen we presenoldeb yn yr ysgol.

Chwilio A i Y