Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cabinet yn cymeradwyo trosglwyddo tir yn gynnar i Goleg Penybont.

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo trosglwyddo tir yn gynnar i Goleg Penybont ar gyfer campws newydd yng nghanol y dref. 

Fel rhan o raglen 'uwchgynllunio' sydd â’r nod o adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr dros y ddeng mlynedd nesaf, bydd y datblygiad coleg arfaethedig yn cael ei adeiladu ar gyn safle Gorsaf Heddlu De Cymru a maes parcio aml lawr Bracla 1 yn Ochr Rad.

Cafodd yr orsaf heddlu ei dymchwel ym mis Mehefin, a bwriedir cwblhau dymchwel y maes parcio aml lawr erbyn mis Ebrill 2024, gyda thendrau wrthi’n cael eu cyhoeddi.

Mae dymchwel y maes parcio’n cyflwyno heriau ynghylch strwythur yr adeilad, yn ogystal â’r ffaith ei fod yn agos at rwydwaith rheilffordd y brif lein, Asda ac Aldi.  Bydd angen caniatâd Network Rail a dylid cael yswiriant indemniad priodol cyn i’r gwaith ar y maes parcio gychwyn.

Mewn cyfarfod yn gynharach yr wythnos hon, cymeradwyodd Pwyllgor Cynllunio y cyngor y cynigion ar gyfer y coleg.  Bydd y campws, a fydd yn agor ym mis Medi 2025, yn cynnwys dau adeilad newydd yn Ochr Rad a fydd yn darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu rhagorol, gan gynnwys theatr, salonau harddwch a thrin gwallt, stiwdios dawns a recordio, gweithdai dylunio a mwy.

Bydd y prosiect yn cynnig adeilad carbon sero net, gyda buddion cymunedol yn cynnwys theatr 200 sedd, siop goffi a mannau cyfarfod hyblyg. Mae’r fenter hefyd yn bodloni polisi ‘Canol Trefi yn Gyntaf’ Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi cyhoeddus.

Mae’r campws mewn lleoliad hynod o gynaliadwy yng nghanol y dref, yn agos at orsafoedd bws a thrên. Yn unol â’r Polisi Cynllunio Cenedlaethol, bydd y cyngor y cymryd camau i fanteisio ar y lleoliad hwn a hyrwyddo teithio llesol, yn ogystal â’r defnydd o drafnidiaeth gynaliadwy.  

Dywedodd Pennaeth a Phrif Weithredwr Penybont, Simon Pirotte: “Mae hon yn garreg filltir bwysig a chyffrous yn ein nod o ddarparu canolfan sgiliau a dysgu gynaliadwy ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yng nghanol y fwrdeistref sirol. 

“Mae’n brosiect cymhleth ac uchelgeisiol, sy’n adlewyrchu buddsoddiad sylweddol i adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y campws newydd yn darparu ystod amrywiol o hyfforddiant, prentisiaethau, uwchsgilio, a datblygu sgiliau lefel uwch i gynorthwyo busnesau a’r economi yma yng Nghymru.” 

Mae lleoliad y campws newydd yn addo cyfrannu’n sylweddol i economi canol tref Pen-y-bont ar Ogwr - bydd nifer y myfyrwyr a staff fydd yn ymweld â’r dref yn ddyddiol yn sicr o roi hwb i fusnesau lleol.

Gan ei fod yn agos at orsaf drenau a bysiau Pen-y-bont, mae cyfleoedd sylweddol i hyrwyddo teithio llesol a defnyddio cludiant cyhoeddus i’r safle, gan helpu i fodloni ein taged carbon sero net.

Rydym yn hynod o gyffrous ynghylch y datblygiad hwn a beth fydd yn ei gynnig i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal ag ardal ehangach y fwrdeistref sirol.

Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio

Chwilio A i Y