Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Annog sefydliadau cymunedol i wneud cais am grantiau digonolrwydd bwyd

Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae grantiau digonolrwydd bwyd newydd ar gael er mwyn mynd i’r afael â thlodi bwyd ledled y fwrdeistref sirol drwy gydol yr haf.

Caiff y rhain eu rheoli gan BAVO, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr, ar ran y cyngor, a bydd dwy rownd o grantiau digonolrwydd bwyd ar gael i gychwyn - yn agored am bythefnos yr un. 

Mae'r rownd gyntaf o grantiau bellach ar agor hyd at 21 Gorffennaf, a bydd yr ail rownd yn agor ar 24 Gorffennaf ac yn cau ar 4 Awst.  Mae'n bosib y bydd mwy o rowndiau wedi hynny, yn dibynnu a fydd cyllid ar gael.

Cynigir y gefnogaeth i sefydliadau cymunedol yn y fwrdeistref sirol sydd yn helpu pobl gyda darpariaethau bwyd.  Mae'n bosib y bydd yr arian yn galluogi sefydliadau o’r fath i barhau neu ymestyn eu gwaith.

Mae’n bosib y bydd modd defnyddio'r grantiau mewn sawl ffordd, gan gynnwys darparu cyflenwadau bwyd o safon, bodloni anghenion hyfforddi gwirfoddolwyr, yn ogystal â chefnogi mentrau i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth teuluoedd o ran bwyd. 

Dywedodd Heidi Bennett, Prif Weithredwr BAVO:  “Mae preswylwyr yn profi argyfwng costau byw, gyda chostau ynni, tanwydd, bwyd, rhent a chyfraddau morgeisiau yn codi ar raddfa nad ydym wedi'i gweld ers cenedlaethau. Rydym yn ffodus iawn fod gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gymaint o elusennau, grwpiau gwirfoddol, a sefydliadau eraill rhagorol sy’n gweithio’n galed i helpu'r rheiny sydd wir mewn angen. Ond, mae’r sefydliadau hyn angen cymorth hefyd, gan eu bod yn wynebu galw cynyddol am eu gwasanaethau.

“Rwyf yn ddiolchgar i’r cyngor ac i Lywodraeth Cymru am eu cymorth o ran darparu cyllid i gefnogi’r ymdrechion hyn.”

Rydym yn hynod falch o allu cynnig y grantiau hyn ar y cyd â Llywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi sefydliadau cymunedol wrth iddynt fynd i’r afael â thlodi bwyd dros yr haf.

Rydym yn cydnabod bod yr hinsawdd ariannol yn un heriol ar hyn o bryd, a bod pobl o bosib yn cael trafferth ymdopi â nifer fawr o ofynion ariannol. Gobeithiwn y bydd y grantiau yn hwyluso gallu sefydliadau o’r fath i gyflawni eu swyddogaethau angenrheidiol.

Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol

I wneud cais, ewch i’n gwefan.

Chwilio A i Y