Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trosglwyddo Asedau Cymunedol Pafiliwn y De

Cafodd Bridgend Athletic RFC ei ffurfio fel y mae heddiw ym 1972, pan sefydlwyd tîm hŷn.  Sefydlodd y clwb dîm Ieuenctid ym 1976 a thîm Dan 21 ym 1977.  Cafodd adeilad y clwb ei adnewyddu a'i agor ym 1982, gyda'r clwb yn cyflawni aelodaeth lawn o Undeb Rygbi Cymru ym 1983.  Ar y pryd, roedd gan y clwb 3 Thîm Hŷn a Thîm Ieuenctid.

Parhaodd y clwb i dyfu dros y blynyddoedd, ac ym 1990, sefydlwyd adrannau mini (Dan 11-16 oed) ac iau (Dan 7-10 oed) – heddiw, mae'r adrannau hyn yn cynnwys dros 250 o blant, sy'n chwarae'n rheolaidd ar foreau Sul drwy gydol y tymor. 

Dros 50 o flynyddoedd, mae'r clwb wedi magu 3 chwaraewr y Llewod, 10 chwaraewr Cymru Rhyngwladol llawn, ac 1 chwaraewr Rhyngwladol Merched, yn ogystal â llu o chwaraewr Rhyngwladol, Rhanbarthol a Chynghrair.

Aeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ati i gwblhau gwaith adnewyddu sylweddol i Bafiliwn y De yng Nghaeau'r Bontnewydd yn 2021, gan gynnwys gosod deunydd cladin allanol newydd, ailweirio'r adeilad a gosod system wresogi a boeler newydd. 

Dyfarnwyd trwydded i Bridgend Athletic RFC ymgymryd â gwaith adnewyddu mewnol ym Mhafiliwn y De yn 2022. Ers hynny, mae'r pafiliwn wedi'i foderneiddio, ei ddiweddaru a'i wella yn sylweddol, yn unol ag anghenion newidiol y clwb. 

Rhoddodd y Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol, drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, £27,000 o gyllid at gynnal y gwaith adnewyddu. 

Roedd y gwaith, a gynhaliwyd mewn pryd erbyn dechrau'r tymor newydd, yn cynnwys gosod byrddau gwaith newydd yn y gegin, basnau golchi dwylo, cyfleusterau toiled ar wahân i ferched, lloriau gwrthlithro, meinciau newydd, drysau mewnol newydd, ynysu'r to, adnewyddu'r ardal gawod, ac addurniadau gorffenedig cyffredinol yn yr adeilad cyfan. 

Ar hyn o bryd, mae'r cyfleuster yn cael ei gynnal a'i gadw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae ar gael i glybiau chwaraeon y sir ei ddefnyddio yn ystod y tymor.

Chwilio A i Y