Tocynnau bws
Mae tocyn bws consesiynol am ddim yn eich galluogi chi i fwynhau trafnidiaeth diderfyn ar bob gwasanaeth bws lleol ledled Cymru.
Er enghraifft, os oes gennych docyn bws o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gallech ei ddefnyddio i fwynhau trafnidiaeth diderfyn yn y Rhyl.
Pwy sy’n gymwys ar gyfer tocyn bws consesiynol am ddim?
Gallwch hefyd ymgeisio am docyn bws am ddim os:
- ydych chi’n derbyn Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl (CUESLBA)
- ydych chi’n derbyn Taliad Annibyniaeth Bersonol (TAB)
- ydych chi’n derbyn Lwfans Symudedd Pensiynwyr Rhyfel (LSPRh)
- ydych chi’n derbyn dyfarniad dan Dariffau 1-8 y Cynllun Iawndal Cyn-filwyr Rhyfel (AFCS)
- oes gennych nam sylweddol ar y golwg
- oes gennych nam sylweddol ar y clyw neu’n hollol fyddar
- os oes gennych fathodyn glas
- ydych yn methu siarad
- oes gennych nam neu anaf sy’n golygu bod cerdded yn anodd iawn
- nad oes gennych freichiau neu’n methu â defnyddio’r ddwy fraich
- oes gennych anabledd dysgu
- na fyddech chi’n cael trwydded dan Rhan III Deddf Traffig Ffyrdd 1998, oni bai ei fod ar gyfer camddefnyddio cyffuriau neu alcohol
Tocynnau Cydymaith
Mae ar rai pobl angen person arall i deithio gyda nhw oherwydd problem feddygol neu anabledd. Mewn achosion o’r fath, efallai y byddwch yn gallu cael tocyn cydymaith fel bod modd iddynt deithio â chi am ddim. Efallai y bydd ffi ychwanegol am hyn, y bydd yn rhaid i'r ymgeisydd ei thalu, oherwydd efallai y bydd angen tystiolaeth feddygol.
Sut i ymgeisio
Os ydych yn ymgeisio’n seiliedig ar oedran, gallwch ymgeisio hyd at dair wythnos cyn eich pen-blwydd yn 60.
Gallwch ymgeisio wyneb yn wyneb yn y lleoliadau canlynol:
- Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr
- Llyfrgell Abercynffig
- Llyfrgell Maesteg
- Canolfan Fywyd Bro Ogwr
- Llyfrgell Pencoed
- Llyfrgell Pontycymer
- Llyfrgell Porthcawl
- Canolfan Fywyd Pîl
Hefyd, bydd angen:
- llun pasbort diweddar mewn lliw o’r ymgeisydd
- prawf oedran, megis tystysgrif geni, pasbort, neu drwydded yrru
- dau brawf cyfeiriad mewn cyfuniad megis bil trydan/nwy/dŵr, bil y dreth gyngor, datganiad banc, trwydded yrru, dogfennau budd-daliadau neu ddogfennau pensiwn
- efallai y bydd angen cyflwyno dogfennau ychwanegol os ydych yn ymgeisio ar sail anabledd neu gyflwr meddygol
- eich rhif Yswiriant Gwladol
Gynted ag y mae’r cais wedi’i dderbyn, bydd y tocynnau’n cael eu prosesu o fewn 21 diwrnod gwaith ac yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i gyfeiriad cartref yr ymgeisydd.
Tocynnau coll neu docynnau wedi’u dwyn
Rydym yn prosesu tocynnau bws newydd o fewn 7-10 diwrnod gwaith. Efallai y bydd cost o £5.00 am hyn.
Mwy o wybodaeth
Ymweld â gwefan Trafnidiaeth Cymru am fwy o wybodaeth ynghylch y tocyn mantais bws.