Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig

Mae’r cynllun cymorth gwarcheidiaeth arbennig yn rhan bwysig o’r broses asesu. Mae’n:

  • pennu pwy sy’n gyfrifol am ofalu am y plentyn neu’r plant
  • cynnwys gwybodaeth am sut byddwch yn diwallu eu hanghenion o ran iechyd, addysg, cyswllt, emosiynol ac ymddygiadol
  • cynnwys gwybodaeth bwysig am bwy y gallwch gysylltu ag ef os oes gennych unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’ch rôl fel gwarcheidwad arbennig
  • cynnwys enwau a manylion cyswllt y bobl berthnasol yn yr awdurdod lleol

Adolygu’r cynllun cymorth

Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau yn y cynllun cymorth gwarcheidiaeth arbennig. Y peth lleiaf posibl mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei wneud yw cysylltu â gwarcheidwaid arbennig o leiaf unwaith y flwyddyn.

Efallai mai dim ond galwad ffôn fydd ei hangen pan:

  • mae perthynas sefydlog rhwng y gwarcheidwad a’r plentyn
  • nad oes unrhyw bryderon nac anawsterau
  • mae’r trefniant gwarcheidiaeth arbennig yn gweithio’n dda

Efallai na fydd angen rhagor o gyngor, arweiniad na chefnogaeth.

Fel arall, gall gweithiwr cymdeithasol o’r Tîm Sefydlogrwydd drefnu i ymweld â chartref y gwarcheidwad arbennig. Gallai hyn fod yn berthnasol mewn sefyllfa lle mae angen pecyn cymorth cymhleth, neu lle mae angen adolygu’r cynllun cymorth yn fwy cadarn.

Yn ystod y gwaith o adolygu’r cynllun cymorth, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried yr un ystyriaethau â’r asesiad gwreiddiol.

Cyswllt

Gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642674

Chwilio A i Y