Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig

Cyflwynwyd gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, a’u derbyn yn gyfraith yn 2005. Daethant i rym yn 2006. Mae gwarcheidiaeth arbennig yn fwy parhaol, ac yn cynnig mwy o ddiogelwch na gorchmynion maethu a threfniadau plant hirdymor. Nid oes ganddo’r un gwahanu cyfreithiol oddi wrth y rhieni biolegol â mabwysiadu.

Mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig yn orchymyn llys sy’n penodi unigolyn neu unigolion i fod yn warcheidwad arbennig plentyn. Mae gwarcheidiaeth arbennig yn golygu y gallant arfer cyfrifoldeb rhiant i wahardd unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant ar wahân i warcheidwad arbennig arall. Mae hyn yn berthnasol i bob penderfyniad sy’n effeithio ar y plentyn fwy neu lai.

Mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig yn cyfyngu hawliau’r rhieni biolegol i ymyrryd neu herio’r gorchymyn heb ganiatâd y llys. Yn wahanol i fabwysiadu, mae’r gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig yn cadw’r cyswllt cyfreithiol sylfaenol â’r rhieni. Nhw yw rhieni cyfreithiol y plentyn o hyd, ond mae eu gallu i arfer eu cyfrifoldeb rhieni yn gyfyngedig.

Ystyriwyd bod gorchymyn cyfreithiol newydd yn angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion nifer sylweddol o blant nad oedd modd i’w rhieni eu magu: roedd y plant hyn yn cynnwys plant hŷn oedd wedi eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd biolegol; plant oedd eisoes wedi ymgartrefu gyda pherthynas neu ofalwr maeth; plant o grwpiau lleiafrifol ethnig a oedd yn wynebu anawsterau diwylliannol wrth gael eu mabwysiadu; a phlant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches ac a allai fod angen sail gyfreithiol gadarn heb dorri’r cyswllt cryf sydd ganddyn nhw â’u teulu dramor.

Llywodraeth Cymru, Cod Ymarfer Gwarcheidiaeth Arbennig Gorffennaf 2018

Cyswllt

Gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642674

Chwilio A i Y