Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig

Rhaid i awdurdodau lleol ystyried, asesu a monitro’r cymorth ariannol a ddarperir. Gall yr awdurdod lleol ddarparu cymorth ariannol mewn amgylchiadau penodol. Yn fras, mae’r amgylchiadau hyn yn cynnwys lle mae cymorth ariannol yn angenrheidiol:

  • i sicrhau y gall y gwarcheidwad neu’r darpar warcheidwad barhau i ofalu am y plentyn
  • i dalu am ffioedd cyfreithiol
  • i ddiwallu anghenion gofal arbennig

Mae hyn er mwyn sicrhau nad rhwystrau ariannol yw’r unig reswm pam nad yw trefniant gwarcheidiaeth arbennig yn llwyddiannus neu nad oes modd iddo fwrw ymlaen.

Ni ddylai’r cymorth ariannol sy’n cael ei dalu i warcheidwad arbennig ddyblygu’r cymorth sydd ar gael drwy’r system budd-daliadau a threth. Disgwylir i chi wneud cais am yr holl fudd-daliadau cymwys. Gallwn eich cyfeirio at gynghorydd budd-daliadau os oes angen help arnoch gyda hyn.

Sut caiff cymorth ariannol ei ddarparu

Gallai cymorth ariannol:

  • fod yn un cyfandaliad i ddiwallu angen penodol a aseswyd
  • fod yn gyfres o daliadau cyfandaliad i ddiwallu angen penodol a aseswyd
  • fod yn daliad cyfnodol neu reolaidd ar gyfnodau y cytunwyd arnynt i ddiwallu angen penodol parhaus a aseswyd

Adolygiad o gymorth ariannol

Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu’r cymorth ariannol mae’n ei ddarparu o leiaf unwaith y flwyddyn, neu cyn hynny os bydd amgylchiadau’n newid.

Tua chwe wythnos cyn i’ch adolygiad ariannol blynyddol gael ei drefnu, byddwch yn cael dau lythyr. Bydd un yn gofyn i chi lenwi ffurflen Datganiad Cyllid, ac un yn rhoi gwybod i chi pa ddogfennau sydd eu hangen i gwblhau adolygiad ariannol.

Ar ôl i’r adran gyllid gael eich dogfennau bydd modd iddi gyfrifo p’un ai a fyddwch yn parhau i gael lwfans ai peidio. Mae hwn yn asesiad prawf modd, felly gall eich cymorth gynyddu neu ostwng yn dibynnu ar eich incwm.

Bydd y Tîm Sefydlogrwydd yn llenwi’r dogfennau angenrheidiol i awdurdodi eich lwfans ar ôl iddo gael yr asesiad ariannol wedi’i gwblhau.

Os nad ydych am gael adolygiad ariannol prawf modd

Os nad ydych am gael asesiad prawf modd yna nid oes yn rhaid i chi ddarparu unrhyw fanylion ariannol. Fodd bynnag, ni fydd modd i chi gael cymorth ariannol.

Os byddwch yn newid eich meddwl gallwch ofyn am asesiad o anghenion ar unrhyw adeg.

Cyswllt

Gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642674

Chwilio A i Y