Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf

Mae’r Cynllun Cefnogi Tanwydd ar gau ar hyn o bryd.

Fel rhan o becyn cefnogi o fwy na £90m i fynd i’r afael â phwysau uniongyrchol ar gostau byw, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod arian ar gael ar gyfer Cynllun Cefnogi Tanwydd newydd y gaeaf hwn.

 Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad arian parod untro o £200 i ddarparu cymorth tuag at dalu eu biliau tanwydd dros y gaeaf. Mae'r taliad hwn yn ychwanegol at yr ad-daliad Mesur Ynni a gynigir gan Lywodraeth y DU a'r Taliad Tanwydd Gaeaf sy’n cael ei dalu fel arfer i bensiynwyr.

  • Gostyngiad Treth y Cyngor (mae hwn yn ostyngiad prawf modd ar eich cyfrif Treth Gyngor (yn seiliedig ar incwm), sy'n wahanol i fathau eraill o ostyngiadau neu eithriadau fel Gostyngiad Person Sengl)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Gysylltiedig ag Incwm
  • Credyd Cynhwysol
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Pensiwn
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr (gan gynnwys hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwr)
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Gyfraniadau/Dull Newydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Gyfraniadau/Dull Newydd
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Ategiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

Rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfrifol hefyd am dalu'r biliau ynni ar gyfer yr eiddo.

Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd gymwys, os ydynt yn talu am eu tanwydd ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol, yn chwarterol neu i'r rhai sy'n defnyddio tanwydd oddi ar y grid.

Os yw deiliad tŷ, neu ei bartner, yn atebol am gostau tanwydd ond nad yw’n cael unrhyw un o’r budd-daliadau cymwys, gallai fod yn gymwys i gael taliad o hyd os oes ganddo berson cymwys yn byw gydag ef.

  • Byw yng nghartref deiliad y tŷ fel ei brif breswylfa; a
  • Yn blentyn dibynnol neu'n oedolyn arall sy'n byw gyda deiliad y tŷ, neu ei bartner; ac,
  • Mae’n derbyn un o'r budd-daliadau canlynol rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023:
    • Lwfans Gweini
    • Lwfans Byw i'r Anabl
    • Taliad Annibyniaeth Personol
    • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
    • Lwfans Gweini Cyson
  • Ategiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

Person Sengl

  • Rydych chi’n gwneud cais i’r cynllun erbyn 5pm ar 28 Chwefror 2023
  • Rydych chi’n gyfrifol am dalu’r biliau tanwydd yn eich eiddo.           
  • Rydych chi’n derbyn budd-dal cymwys, neu rydych yn byw gyda rhywun sy’n derbyn un o’r budd-daliadau anabledd cymwys; ac                       
  • Mae’r budd-daliadau hyn yn cael eu talu ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023.

Cwpl

  • Rydych chi neu eich partner yn gwneud cais i’r cynllun erbyn 5pm ar 28 Chwefror 2023.
  • Rydych chi, eich partner, neu’r ddau ohonoch yn gyfrifol am dalu’r biliau tanwydd yn eich eiddo.           
  • Rydych chi, eich partner, neu’r ddau ohonoch yn derbyn budd-dal cymwys, neu rydych yn byw gyda rhywun sy’n derbyn un o’r budd-daliadau anabledd cymwys; ac                       
  • Mae’r budd-daliadau hyn yn cael eu talu ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023.

Os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys ar gyfer y cymorth hwn, gallwch gyflwyno hawliad drwy’r wefan hon o 26 Medi 2022 ymlaen.

Rhaid i bob cais ddod i law cyn 5pm ar 28 Chwefror 2023. Bydd y taliadau ar gyfer ceisiadau llwyddiannus yn cael eu gwneud o fis Hydref 2022 ymlaen hyd at ddiwedd mis Mawrth 2023.

Os ydych chi’n profi caledi ariannol, efallai yr hoffech wneud cais i'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) | LLYW.CYMRU.

Bydd angen i chi greu cyfrif trwy ‘Fy Nghyfrif’ os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes. Unwaith y byddwch wedi creu cyfrif ac wedi mewngofnodi, cliciwch ar y tab gwasanaethau ar y bar glas a dewiswch ‘Treth y Cyngor a Budd-daliadau’ o’r gwasanaethau sy'n cael eu harddangos yn y gwaelod. Dyma lle byddwch chi'n dod o hyd i'r ffurflen ar gyfer Cynllun Cefnogi Tanwydd Llywodraeth Cymru.

Chwilio A i Y