Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Byw ym Mwrdeistref Sirol Pen Y Bont Ar Ogwr

Mae Sir Pen-y-bont yn chwa o awyr iach. Mae'r draethlin yn gartref i syrffio gydol y flwyddyn, traethau baner las a golff o'r radd flaenaf. Mae harddwch naturiol mewndirol yn frith o safleoedd a chwedlau hanesyddol. Mae ein traddodiadau hynod yn cynnwys yr hen Mari Lwyd yn y flwyddyn newydd a Gŵyl Elvis fwyaf y byd. 

Trefi a Phentrefi

Tref marchnad ers y 16eg ganrif, mae gan Ben-y-bont ar Ogwr gymysgedd fywiog o siopau annibynnol, caffis a siopau’r stryd fawr. Ewch i chwilio am hanes y dref. Archwiliwch Dŷ Sant Ioan - yr adeilad trigiadwy hynaf yn y dref. Dringwch i fyny Fryn Castell Newydd i gael golygfeydd gwych o’r dref. Gallwch fwynhau gweithgareddau a digwyddiadau celfyddydol yn Nhŷ Carnegie.

Yn y farchnad dan do draddodiadol, fe welwch fusnesau teuluol sefydledig a masnachwyr newydd. Ewch i Ganolfan Siopa Rhiw a Chanolfan Siopa Pen-y-bont ar Ogwr i weld cymysgedd o enwau cyfarwydd y stryd fawr a manwerthwyr annibynnol.

Mae tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cymysgu treftadaeth oesol gyda chanolfannau siopa modern, bwytai a chaffis gwych a digon o adloniant i bobl o bob oed.

Wedi’i leoli yn nyffryn hardd Llynfi, datblygodd Maesteg yn ystod y chwyldro diwydiannol. Gallwch fwynhau golygfeydd panoramig ar deithiau cerdded Cwm Llynfi sy’n cychwyn yn yr hen dref lofaol hon ac ymlacio yng Nghoetir Ysbryd Llynfi sydd ar safle hen bwll glo. Bydd ailddatblygu neuadd y dref yn dod â chyfle i fwynhau gweithgareddau adloniant amrywiol yn y ganolfan ddiwylliannol hon.

Gall pobl sy’n dwlu ar antur gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn y Ganolfan Chwaraeon Dŵr, Bae Rest, neu brofi eu sgiliau golff ar un o gyrsiau golff gorau’r byd, yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl. Gallwch fwynhau’r ffair, hufen ia a machludau haul bendigedig yn yr haf, neu yn y gaeaf swatio mewn caffi ar lan y môr ar ôl bod am dro ar hyd y traeth.

Ychydig y tu ôl i’r Promenâd ar lan y môr, fe welwch amrywiaeth gyffrous o siopau a chaffis annibynnol, ochr yn ochr â brandiau’r stryd fawr. Ar yr harbwr mae gorsaf yr RNLI a storfa’r tollau restredig hynaf Cymru, Adeilad Jennings, sydd bellach yn fan prysur ar lan y dŵr gyda chaffis a bwytai.

Hamdden

Yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a’r cyffiniau mae yna ddigonedd o gyfleusterau hamdden ar gyfer pob diddordeb. I rai sy’n hoffi’r awyr agored mae yna gerdded mynyddoedd, golff, pysgota, cyfleoedd i hwylio, syrffio a phadl-fyrddio.

Os ydych chi'n chwilio am adloniant neu weithgareddau diwylliannol, mae yna theatrau, sinemâu, amgueddfeydd, orielau celf a chymdeithasau niferus yn yr ardal.

I rai sy’n mwynhau chwaraeon, mae'r cyfleusterau'n cynnwys pyllau nofio a chanolfannau hamdden, bowlio, merlota, bowlio awyr agored, tenis a nifer o feysydd rygbi a phêl-droed, caeau criced ac mae yna nifer o gyrsiau golff o'r radd flaenaf. I’r rhai sy’n cael eu hysgogi gan weithgareddau mwy cymdeithasol, mae’r fwrdeistref sirol yn cynnig digonedd o dafarndai, clybiau a gwestai.

Atyniadau

Dyma’r lle perffaith ar gyfer gwyliau cerdded neu feicio bythgofiadwy. Mae’r golygfeydd o ddyffrynnoedd afon Llynfi, Garw ac Ogwr yn hynod drawiadol ac mae Parc Gwledig Bryngarw yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer archwilio ein cymoedd.

Yn llai adnabyddus na’n ardal arfordirol, mae’r copaon yn cynnig golygfeydd bendigedig o’r llwybrau cefnffordd. Ar hyd gwaelod y dyffrynnoedd, mae hen reilffyrdd a phyllau glo wedi’u trawsnewid yn llwybrau heb draffig a lleoedd yn llawn natur.

Mae morlin helaeth y fwrdeistref sirol yn gartref i syrffio trwy’r flwyddyn, traethau baner las a golff o safon byd. Ar y mewndir, mae harddwch naturiol yn frith o safleoedd hanesyddol a chwedlau.

Mae ein traddodiadau hynod yn cynnwys Gŵyl hynafol y Fari Lwyd, sy’n cael ei chynnal yn y Flwyddyn Newydd ym mhentref hanesyddol Llangynwyd a Gŵyl Elvis fwya’r byd. Mae yna antur i’w gael yma trwy gydol y flwyddyn!

Wedi’i leoli ar arfordir de Cymru, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Twyni Merthyr Mawr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gartref i'r twyn uchaf yng Nghymru, y Big Dipper.

Mae Gwarchodfa Natur Parc Slip ei hun yn ardal o 300 erw sy’n cynnwys cymysgedd gwych o gynefinoedd fel glaswelltir, coetir a thir gwlyb, wedi’u hadfer o’i statws blaenorol fel pwll glo brig.

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig (yn cynnwys yr ardal o dwyni tywod a Phwll Cynffig) wedi'u dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae Pwll Cynffig, llyn naturiol mwyaf Morgannwg, wedi’i osod ar ymyl y warchodfa natur twyni tywod hyfryd hon.

Pa un a ydych yn deulu sy’n chwilio am hwyl ac antur yn yr awyr iach, neu’n gerddwr sydd eisiau dianc i gefn gwlad hyfryd Cymru, mae’r rhain i gyd ar gael ym Mharc Gwledig Bryngarw, sydd munudau o’r M4 ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Yr adeilad hanesyddol hwn a gafodd ei adeiladu yn 1881 ac sydd bellach yn adeilad rhestredig gradd II yw canolbwynt Maesteg. Mae Neuadd y Dref yn cynnwys theatr gyda 550 o seddau ac mae hefyd yn gartref i chwech o beintiadau gwych arlunwyr o Gymru.

Yn hygyrch iawn o’r rhan fwyaf o’r DU ac Ewrop, mae’r fwrdeistref sirol yn elwa o gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol, gan gynnwys tair cyffordd ar draffordd yr M4, porthladdoedd cyfagos, gorsafoedd ar y brif reilffordd rhwng Llundain ac Abertawe a thaith fer i Faes Awyr Rhyngwladol Cymru. Mae’n 246 cilomedr sgwâr mewn maint ac mae ganddi boblogaeth o 145,500 (ffynhonnell: SYG).

Tai ac addysg

Mae tai yn yr ardal yn amrywio o fythynnod cerrig hardd llawn cymeriad i gartrefi moethus mewn datblygiadau tai modern. Mae prisiau tai yn cynrychioli gwerth eithriadol am arian gyda phrisiau yng Nghymru yn gyffredinol yn is nag mewn rhannau eraill o'r DU.

Mewn datblygiadau newydd fe gewch ysgolion, meysydd chwarae, allfeydd manwerthu, llwybrau bws ac amwynderau eraill.

Mae safonau addysg yn y fwrdeistref sirol yn uchel, gydag ysgolion o’r radd flaenaf sy’n cyflawni canlyniadau rhagorol.

Siopa

Fe welwch eich hoff frandiau yng Nghanolfan Siopa McArthur Glen. Mae yna dros 90 o frandiau stryd fawr a dylunwyr, a digon o leoedd i gael coffi neu ginio yn ystod eich taith siopa. Wedi'i lleoli ychydig oddi ar gyffordd 36 yr M4, mae'r ganolfan yn cynnig amrywiaeth eang o siopau o ddillad a chynnyrch harddwch i ddeunydd ysgrifennu ac offer coginio.
 
Mae yna barcio am ddim, mynediad anabl, gwasanaeth llogi cadair olwyn, ardaloedd hamddenol awyr agored, popeth sydd ei angen ar gyfer ymweliad cofiadwy. Mae’r sinema a’r ardal chwarae dan orchudd yn ei wneud yn ddiwrnod difyr i deuluoedd hefyd.

Chwilio A i Y