Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gymunedau ffyniannus sy'n byw ac yn gweithio yn nhrefi marchnad prysur Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg a thref glan môr Porthcawl.

Mae pobl yng Nghymru yn adnabyddus am eu natur groesawgar, ac mae’r fwrdeistref sirol yn cynnig cartref i bobl o bob cenedl gyda grwpiau ffydd ar gyfer pob crefydd a siopau bwyd arbenigol i bob diwylliant. Mae ein bwrdeistref sirol yn le gwych i fyw, i weithio, i astudio, i ymweld â hi, neu i symud iddi.

Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol rhwng Abertawe a Llundain. Gallwch deithio ar y trên o Ben-y-bont ar Ogwr i orsaf drenau Paddington Llundain mewn ychydig dros ddwy awr a chyrraedd Caerdydd ar y trên mewn 20 munud yn unig. Mae yna hefyd gysylltiadau trên uniongyrchol i Ganolbarth Lloegr o orsaf drenau Pen-y-bont ar Ogwr.

Gallwch gyrraedd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd mewn 30 munud yn unig mewn car o’r fwrdeistref sirol, a dewis o dros 50 o deithiau hedfan uniongyrchol a mwy na 900 o gysylltiadau ledled y byd.

Mewn lleoliad cyfleus oddi ar dair prif gyffordd yr M4 a 30 munud mewn car o ganol dinasoedd Caerdydd ac Abertawe, mae teithio yn ôl a blaen i Ben-y-bont ar Ogwr yn gyflym ac yn effeithlon.

Byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Yn unigryw ei natur, mae'n gartref i fwy na XX milltir o arfordir heb ei ddifetha yn y de ac yn ymestyn i gefn gwlad a chymoedd hyfryd i'r gogledd.

Gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Y cyngor yw un o gyflogwyr mwyaf y fwrdeistref sirol, rydym yn cynnig ystod o fuddion sydd wedi’u cynllunio i ddenu, datblygu a gwobrwyo ein gweithwyr.

Chwilio A i Y