Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pwyllgorau trosolwg a chraffu

Ers 1 Hydref 2009, mae gofyn bod gan y cyngor Bwyllgor Trosolwg a Chraffu gyda’r pŵer i wneud y canlynol:

  • adolygu neu graffu ar benderfyniadau a wnaed neu gamau gweithredu a gymerir gan yr awdurdodau cyfrifol yn gysylltiedig â gweithredu swyddogaethau trosedd ac anhrefn.
  • gwneud adroddiadau neu argymhellion i’r Cyngor neu’r Cabinet fel yn ôl y sawl sy’n gyfrifol am y swyddogaeth, yn gysylltiedig â gweithredu’r swyddogaethau hyn.

Yr awdurdodau cyfrifol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Heddlu De Cymru
  • Awdurdod Heddlu De Cymru
  • Awdurdod Tân De Cymru
  • Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae materion trosedd ac anrhefn yn cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymddygiad sy'n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd lleol, a chamddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau eraill.

Mae'r ddeddfwriaeth yn golygu y gall unrhyw gynghorydd gyfeirio mater trosedd ac anhrefn lleol i'r pwyllgor hwn a gellir ystyried hynny, p'un a ydynt yn aelodau o'r pwyllgor ai peidio.

Mae'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol wedi'i ddynodi'n gyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth trosedd ac anrhefn. Mae'r Pwyllgor hefyd yn goruchwylio penderfyniad y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a'i gyrff cyfansoddol (mewn perthynas â'u rolau diogelwch cymunedol).

Mae'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn cyfarfod i ystyried materion trosedd ac anrhefn o leiaf unwaith y flwyddyn.

 

Chwilio A i Y