Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pwyllgorau trosolwg a chraffu

Rôl y pwyllgorau trosolwg a chraffu yw galw i gyfrif aelodau gweithredol a’r cabinet ynghylch eu penderfyniadau.

Maent yn gwneud adroddiadau ac argymhellion sy'n cynghori'r cabinet a'r cyngor ar ei bolisïau, ei gyllideb a darpariaeth gwasanaethau. Maent yn cefnogi gwaith y cyngor yn gyffredinol wrth wella gwasanaethau cyhoeddus.

Rôl trosolwg a chraffu

Mae pwyllgorau trosolwg a chraffu:

  • yn helpu llunio polisïau a phenderfyniadau'r cyngor a sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion trigolion a grwpiau cymunedol
  • yn monitro penderfyniadau gweithredol a’r cyngor a gwneud y broses o wneud penderfyniadau yn fwy cymunedol-ganolog
  • sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu i drigolion
  • cwestiynu cynghorwyr, staff, sefydliadau allanol a'r cyhoedd ar wasanaethau cyhoeddus
  • ymgysylltu â'r cyhoedd i ddatblygu polisïau a gwasanaethau sy'n canolbwyntio arnynt
  • adolygu polisïau a gwasanaethau ac argymell gwelliannau

Pam mae gennym bwyllgorau trosolwg a chraffu

Mae gennym bwyllgorau trosolwg a chraffu am nifer o resymau, gan gynnwys:

  • gwella'r broses o wneud penderfyniadau
  • gwella gwasanaethau
  • gwella'r ffordd caiff polisïau eu datblygu
  • gwella democratiaeth
  • sicrhau tryloywder ac atebolrwydd
  • annog hunan-herio yn seiliedig ar dystiolaeth

Chwilio A i Y