Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trwydded safle llety anifeiliaid



Er mwyn rhedeg sefydliad llety cathod neu gŵn, bydd angen i chi gael trwydded gennym ni. Bydd y drwydded yn nodi faint o gŵn a chathod all gael llety ynghyd ag amodau penodol eraill.

Efallai y byddwn yn rhoi awdurdod i swyddog, milfeddyg neu ymarferydd i archwilio'r safle trwyddedig. Mae meini prawf arbennig yn berthnasol i sefydliadau gofal dydd i gŵn. Cliciwch yma i weld yr amodau. 

Pan fydd ymgeisydd yn gwneud cais, mae’n rhaid iddo fod â hawl i:

  • gadw sefydliad llety anifeiliaid
  • rhedeg siop anifeiliaid anwes dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • cadw anifeiliaid dan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygiedig) 1954
  • perchen, cadw, bod ynghlwm wrth gadw neu â hawl i reoli neu ddylanwadu ar gadw anifeiliaid, neu gludo neu ymdrin ag anifeiliaid dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006
  • perchen, cadw, ymdrin neu gludo anifeiliaid dan Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (yr Alban) 2006

Hefyd yn yr Alban, mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod â hawl i:

  • ddefnyddio, gyrru, reidio neu weithio gydag anifeiliaid
  • cynnig gwasanaethau i anifeiliaid gan gynnwys cymryd meddiant ohonynt
  • cadw anifeiliaid i gynnal unrhyw un o'r gweithgareddau a restrir
  • cymryd gofal am anifeiliaid at unrhyw ddiben arall

Bydd rhaid talu ffi am ymgeisio a gall amodau gael eu hatodi.

Bydd y broses werthuso yn ystyried:

  • os bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety addas bob amser
  • os bydd bwyd, diod a gwelyau addas yn cael eu cynnig ac y bydd yr anifeiliaid yn cael ymarfer corff a sylw rheolaidd
  • bod camau’n cael eu cymryd i reoli afiechydon ymysg anifeiliaid a bod cyfleusterau ynysu ar gael
  • bod anifeiliaid yn cael eu hamddiffyn rhag tân ac achosion brys eraill
  • os oes cofrestr yn cael ei gadw

Mae’n rhaid i’r llety fod yn addas o ran adeiledd, maint, capasiti mewn perthynas â’r defnydd a fwriedir, cyfleusterau ymarfer corff, glendid, tymheredd, goleuadau a chyfleusterau awyru.

Dylai’r cofrestrau ddisgrifio bob anifail, eu dyddiad cyrraedd a gadael, ynghyd ag enwau a chyfeiriadau’r perchnogion. Dylai’r cofrestrau fod ar gael i’w harchwilio ar unrhyw adeg gan swyddog o’r awdurdod lleol, milfeddyg neu ymarferydd.

Mae er budd y cyhoedd fod awdurdodau yn prosesu ceisiadau cyn eu caniatáu. Os nad ydych wedi clywed yn ôl o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni. Gallwch wneud hyn drwy’r manylion cyswllt isod.

Yn yr achos cyntaf, er mwyn apelio yn erbyn cais a wrthodwyd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Yn y man cyntaf, cysylltwch â ni:

E: licensing@bridgend.gov.uk
Ff: 01656 643643

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Yr Is-adran Trwyddedu
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

Gall unrhyw ymgeisydd na chafodd drwydded, neu sydd am herio amod ynghlwm wrth ei drwydded, apelio i’w lys ynadon lleol.

Wrth gwyno, cysylltwch yn y lle cyntaf â’r masnachwr eich hun, yn ddelfrydol drwy lythyr â phrawf dosbarthu. Os nad yw hynny yn gweithio a’ch bod yn y DU, gall Llinell Gymorth Cwsmeriaid y Ganolfan Cyngor ar Bopeth helpu. Y tu allan i’r DU, cysylltwch â Chanolfan Gwsmeriaid Ewrop y DU.

Chwilio A i Y