Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cwynion am drwyddedu a manylion cyswllt

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, anfonwch e-bost i licensing@bridgend.gov.uk.  Nodwch y gall gymryd mwy o amser nag arfer i ymateb i ymholiadau yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’r Adran Trwyddedu a Chofrestru’n prosesu trwyddedau a chydsynio. Mae ein gwaith yn cynnwys cyflwyno, adnewyddu a throsglwyddo trwyddedau yn ogystal â chofrestru a chydsynio'r canlynol:

  • trwyddedau sefydliadau lletya anifeiliaid
  • tystysgrifau safleoedd clwb
  • anifeiliaid gwyllt peryglus
  • ffrwydron
  • trwyddedau a chofrestru gamblo
  • casglu arian o ddrws i ddrws
  • awdurdodi hypnoteiddio
  • cofrestru anifeiliaid perfformio
  • trwyddedau personol
  • trwyddedau siopau anifeiliaid anwes
  • petrolewm
  • cymeradwyo safleoedd ar gyfer priodasau neu seremonïau sifil
  • trwyddedau safle
  • trwyddedau sefydliadau marchogaeth
  • cofrestru gwerthwyr metel sgrap
  • adloniant rhywiol
  • casglu arian ar y stryd
  • trwyddedau masnachu ar y stryd
  • trwyddedau tatw, tyllu’r corff, electrolysis a nodwyddo
  • trwyddedau gyrrwyr tacsi a cherbydau
  • hysbysiadau digwyddiadau dros dro
  • trwyddedau sŵ

Am gymorth i wneud cais, gwnewch apwyntiad trwy gysylltu gan ddefnyddio’r manylion isod.

Gellir gwneud llawer o geisiadau trwy’r post neu ar-lein. Hefyd, rydym yn derbyn ceisiadau trwy ffacs ac os oes ffi, rydym yn derbyn taliadau dros y ffôn. Ewch i’r tudalenau unigol am wybodaeth am drwyddedau penodol.

Cyswllt

Adran Drwyddedu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643643
Cyfeiriad: Ar gau dros dro,

Cwynion am drwyddedau neu eiddo

Oherwydd mai sicrhau diogelwch y cyhoedd yw ein nod, rydym yn trin pob cŵyn yn ddifrifol. Gwnewch gŵyn am ddeiliaid trwydded neu safleoedd trwy gyflwyno’r canlynol i ni:

  • manylion y safle
  • natur y digwyddiad
  • dyddiad ac amser y digwyddiad
  • nodiadau ynghylch pobl eraill rydych wedi adrodd y digwyddiad wrthynt, os o gwbl.

Chwilio A i Y