Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymeradwyo lleoliad ar gyfer seremonïau priodas a sifil

Gwneud cais am, adnewyddu neu newid cymeradwyaeth ar-lein


Ffurflen ceisiadau lleoliadau priodas

Anfonwch ffurflenni at:

Cyswllt

Adran Drwyddedu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643643
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Mae angen trwyddedau ar gyfer cysegru priodasau sifil a ffurfio partneriaethau sifil, yn ogystal â seremonïau anstatudol eraill pan gânt eu cyflwyno.

I wneud cais i gael caniatâd i gynnal seremoni sifil neu briodas, rhaid mai chi yw perchennog neu ymddiriedolwr y safle.

 

I wneud cais bydd angen i chi gyflwyno:

  • ffurflen gais wedi ei chwblhau
  • cynllun safle, sy’n nodi’n glir yr ystafell neu ystafelloedd ar gyfer y digwyddiad
  • y ffi perthnasol

Cyn gynted ag y bo modd, byddwn yn sicrhau bod y cais a’r cynllun ar gael i’r cyhoedd ei archwilio ar bob awr resymol o’r diwrnod gwaith. Bydd hyn yn parhau hyd nes i’r cais gael ei bennu yn derfynol neu ei dynnu nôl.

Byddwn yn ystyried unrhyw hysbysiad gwrthwynebus sy’n deillio o’r ymgynghoriad cyhoeddus.

Byddwn yn ysgrifennu at yr ymgeisydd ac unrhyw un sydd wedi ein hysbysu o’u gwrthwynebiad i’n penderfyniad ac unrhyw amodau a osodwyd ar y drwydded.

Bydd Cynrychiolydd y Swyddog Priodol neu eu cynrychiolydd nhw yn archwilio’r safle i weld os yw’n addas.

Os rhoddir y drwydded, bydd yn ddilys am dair blynedd.

Mae er budd y cyhoedd fod awdurdodau yn prosesu ceisiadau cyn eu caniatáu. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod perthnasol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r awdurdod. Gallwch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch gais drwy’r UK Welcomes Service, neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Ebost: licensing@bridgend.gov.uk

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Yr Is-adran Trwyddedu
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

I apelio yn erbyn cais a wrthodwyd, yn y lle cyntaf cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Ebost: licensing@bridgend.gov.uk

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Yr Is-adran Trwyddedu
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

Mae hawl gennych i adolygiad o benderfyniad yr awdurdod lleol i wrthod eich cais.

Cyflwynwch eich cais am adolygiad i Swyddog Priodol yr awdurdod lleol, gydag unrhyw ffi a nodwyd.

Yn y lle cyntaf, trafodwch eich pryderon gyda ni ar y manylion isod:

Ebost: licensing@bridgend.gov.uk

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Yr Is-adran Trwyddedu
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

Mae hawl gennych i ofyn am adolygiad o’r amodau a osodwyd gan yr awdurdod lleol, eu gwrthodiad i adnewyddu neu i ddiddymu cymeradwyaeth.

Cyflwynwch eich cais am adolygiad i Swyddog Priodol yr awdurdod lleol, gydag unrhyw ffi a nodwyd.

Wrth gwyno, cysylltwch yn y lle cyntaf â’r masnachwr eich hun, yn ddelfrydol drwy lythyr â phrawf dosbarthu. Os nad yw hynny yn gweithio a’ch bod yn y DU gall, Llinell Gymorth Cyngor ar Bopeth helpu. Y tu allan i’r DU, cysylltwch â UK European Consumer Centre.

Os ydych yn gwrthwynebu cais cymeradwyo lleoliad, hysbyswch yr awdurdod lleol o fewn 21 diwrnod i’r hysbysiad o’r cais ymddangos yn y papur lleol.

Chwilio A i Y