Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llywodraethwyr Ysgol

Mae llywodraethwyr yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o arwain, cefnogi a gwella ysgolion. Maent yn ddiduedd ac yn gwneud penderfyniadau sy’n ceisio gwella’r ysgol. Drwy wneud hynny, maent yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a’u dyfodol.

Os byddwch yn dod yn llywodraethwr Ysgol, fe gewch foddhad o ddod yn rhan o dîm sy’n ymgymryd â rôl strategol wrth redeg yr ysgol.  Byddwch yn dysgu sgiliau a fydd yn eich helpu mewn rhannau eraill o’ch bywyd ac yn manteisio ar hyfforddiant am ddim.

Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol arnoch i ddod yn llywodraethwr ysgol, ond mae angen i chi fod yn 18 oed neu drosodd ac mae angen i chi fod â: an interest in our children’s future;

  • yr awydd i wneud gwahaniaeth
  • amser ac ynni
  • parodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb
  • ymrwymiad i weithio mewn tîm
  • brwdfrydedd i ofyn cwestiynau, gwrando a dysgu
  • y cymhelliant i helpu i lywio dyfodol addysg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-Bont Ar Ogwr.

Unwaith y caiff ei benodi, mae tymor swydd llywodraethwr yysgol n para am bedair blynedd.  

Bydd disgwyl i chi fynychu tri chyfarfod o'r corff llywodraethu bob blwyddyn, sef un y tymor, a chyfarfodydd pwyllgor, os yn berthnasol. 

Ceisiadau i fod yn llywodraethwr awdurdod lleol

Llywodraethwyr yr awdurdod lleol - y llywodraethwyr hyn eu penodi gan yr awdurdod lleol. Os oes diddordeb gennych mewn dod yn llywodraethwr awdurdod lleol, lawrlwythwch ffurflen gais. Ar ôl ei chwblhau, anfonwch hi i pupilservices@bridgend.gov.uk

Dyddiad cau: 17 Mai 2024

Ceisiadau ar gyfer rhiant lywodraethwyr

Llywodraethwyr sy'n rhieni - caiff y rhain eu dewis drwy bleidlais i fod ar y Corff Llywodraethu gan rieni eraill. Maen nhw'n rhieni i blant sy'n mynychu'r ysgol dan sylw.

Os oes diddordeb gennych mewn dod yn rhiant lywodraethwr - Ceir manylion cyswllt ysgolion.

Ceisiadau ar gyfer llywodraethwyr cymunedol

Llywodraethwyr cymunedol - caiff y rhain eu penodi gan y Corff Llywodraethu i gynrychioli’r gymuned. Yn ddelfrydol, dylent fyw neu weithio yn y gymuned a wasanaethir gan yr ysgol. Os oes diddordeb gennych mewn dod yn lywodraethwr cymunedol, lawrlwythwch ffurflen gais.

Ar ôl ei chwblhau, anfonwch hi i'r ysgol y mae diddordeb gennych ddod yn llywodraethwr arni - Ceir manylion cyswllt ysgolion.

Hyfforddiant llywodraethwyr

Mae hyfforddiant llywodraethwyr am ddim.  Mae'r hyfforddiant yn helpu i wella eich gwybodaeth as yn eich sgiliau, ac yn eich galluogi i gymryd rhan yn effeithiol yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu.

Rhaid i lywodraethwyr newydd ddilyn dau gwrs hyfforddiant gorfodol.  Cwrs sefydlu yw un, sy’n trafod prif gyfrifoldebau llywodraethwr.  Mae'r llall yn ymwneud â deall y data a ddefnyddir mewn ysgolion a sut y bydd hyn yn eich helpu i gefnogi'r ysgol.

Mae hyfforddiant hefyd ar gael ar ystod o bynciau perthnasol eraill.

Cyfarfodydd y Corff Llywodraethol

Ym mhob cyfarfod, mae llywodraethwyr yn ystyried, trafod a gwneud penderfyniadau ar ystod o bynciau, er enghraifft:

  • perfformiad disgyblion a’r ysgol yn gyffredinol
  • adroddiadau arolygon ysgolion
  • cyllidebau
  • recriwtio staff
  • materion disgyblu
  • gwaith cyffredinol o gynnal a chadw adeiladau a thiroedd yr Ysgol.

Ymdrinnir â llawer o faterion gan bwyllgorau'r corff llywodraethu, sydd wedyn yn cael eu hystyried i'w cymeradwyo gan y corff llywodraethu llawn.

Mae gan bob corff llywodraethu glerc, sy'n trefnu cyfarfodydd ac yn cymryd y cofnodion.

Cyswllt

Gwasanaethau Disgyblion
Ffôn: 01656 642622

Chwilio A i Y