Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Prydau ysgol am ddim

Os ydych yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol, gallwch hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn oedran ysgol:

  • cymhorthdal incwm
  • lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Offer TG: gliniadur a thabledi YN UNIG (dim ond mewn sefyllfa gyfyngedig y dylid defnyddio PDG Access, lle nad yw teulu'n gallu benthyca offer o'r ysgol)
  • cymorth o dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm
  • credyd treth plant (ond nid credyd treth gwaith) os nad yw eich incwm blynyddol a gaiff ei asesu yn ôl credydau treth yn fwy na £16,190
  • elfen gwarant credyd pensiwn
  • elfen ‘parhad’ y credyd treth gwaith (y taliad y gall rhywun ei gael am bedair wythnos arall ar ôl iddo roi'r gorau i fod yn
  • gymwys i gael credyd treth gwaith)
  • credyd cynhwysol (ddim yn gweithio)
  • credyd cynhwysol (mewn gwaith) lle mae eich dyfarniad yn seiliedig ar enillion blynyddol net o dan £7,400 o’ch cyflogaeth neu hunangyflogaeth

Mae gan bobl ifanc sydd â hawl i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm hawl hefyd i gael prydau ysgol am ddim.

Gallwch ddysgu mwy am brydau ysgol am ddim ar wefan Llywodraeth Cymru. (External link - Opens in a new tab or window)

Byddwn yn rhoi gwybod am ganlyniad eich cais i chi yn ysgrifenedig neu drwy e-bost.

Os ydych yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, bydd ysgol eich plentyn yn cael gwybod fel y gall ddiweddaru ei chofnodion.

Bydd prydau ysgol am ddim yn cael eu rhoi i bob plentyn ar wahân ac nid ar gyfer y teulu. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais newydd os oes gennych blentyn arall yn dechrau yn yr ysgol am y tro cyntaf.

Nid oes angen i chi ailymgeisio os yw eich plentyn yn symud i ysgol arall yn y fwrdeistref. Fodd bynnag, dylech ddweud wrthym os bydd eich plentyn yn newid ysgol fel y gallwn gadw ein cofnodion yn gyfredol.

Os bydd ysgol newydd eich plentyn yn dweud wrthym ei fod yn ddisgybl yno, byddwn yn diweddaru ein cofnodion. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i’r ysgol a yw eich plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ai peidio.

 

Newidiadau o 1 Ebrill 2019 ymlaen

Caiff hawl unrhyw ddisgybl sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar yr adeg y cyflwynwyd y trothwy incwm a enillir (1 Ebrill 2019) ei diogelu. Bydd hyn yn berthnasol i bob ymgeisydd nes y daw'r credyd cynhwysol i ben, sydd ar hyn o bryd wedi'i drefnu ar gyfer 31 Rhagfyr 2023. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os bydd eu hamgylchiadau'n newid. Mae'r diogelwch hwn hefyd yn berthnasol i'r rheini sy'n cael budd-daliadau etifeddol, er enghraifft, cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os bydd eu hamgylchiadau'n newid wrth i’r credyd cynhwysol gael ei gyflwyno.

Bydd disgyblion sy'n dod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o dan y meini prawf diwygiedig yn ystod y broses o gyflwyno'r credyd cynhwysol hefyd yn parhau'n gymwys nes i'r cyfnod cyflwyno ddod i ben. Disgwylir i hyn gael ei gyflwyno o 1 Ebrill 2019 i 31 Rhagfyr 2023. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os bydd eu hamgylchiadau'n newid.

Unwaith y bydd y gwaith o gyflwyno’r credyd cynhwysol wedi'i gwblhau, bydd unrhyw blentyn a ddiogelir yn ystod y cyfnod pontio yn parhau’n gymwys tan ddiwedd ei gyfnod addysg presennol. Er enghraifft, bydd yn parhau i gael ei ddiogelu nes iddo orffen yn yr ysgol gynradd neu uwchradd.

Y ffurflen gywir yw ‘Cais am brydau ysgol am ddim/gwisg ysgol benodol’ yn safle ‘Gostyngiad Treth Gyngor a Budd-dâl Tai’ Fy Nghyfrif.

Chwilio A i Y