Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rheolau atodiad enillion ar gyfer cyflogwyr

Rydym yn cyhoeddi Gorchmynion Atodiad Enillion i gyflogwyr pan nad yw rhywun wedi talu ei dreth gyngor. Dim ond ar ôl i lys ynadon ddyfarnu gorchymyn atebolrwydd am y ddyled sy’n weddill mae ein hadran treth gyngor yn gallu rhoi gorchymyn. Mae’r gorchymyn Atodiad Enillion yn ddogfen gyfreithiol sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gymryd arian o gyflog cyflogai. Wedyn caiff ei anfon ymlaen atom ni nes bod y ddyled wedi’i chlirio.

Dyletswyddau cyflogwyr

Rhaid i gyflogwyr wneud y canlynol:

  • gweithredu’r gorchymyn yn unol â’r cyfarwyddyd a’r rheoliadau
  • talu i ni’r didyniadau erbyn y 18fed o’r mis fan bellaf yn ystod y mis sy’n dilyn cyflwyno’r gorchymyn gennym
  • rhoi gwybod i ni yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod os nad ydynt yn cyflogi dyledwr
  • rhoi gwybod i ni yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod i’r dyledwr yn gadael os bydd yn stopio ei gyflogi ac yntau mewn dyled i ni o hyd

Caiff cyflogwyr dynnu £1 y gorchymyn o gostau gweinyddol bob tro y tynnir swm o gyflog cyflogai. Dim ond cyfanswm o ddau orchymyn gaiff gydredeg.

Gall peidio â gwneud y canlynol:

  • tynnu didyniau arwain at weithrediadau yn erbyn cyflogwr, a allai arwain at ddirwy
  • dweud wrthym nad yw dyledwr yn gweithio iddynt mwyach, neu na fydd yn gweithio iddynt mwyach, arwain at ddirwy

Mae’r didyniadau’n ganran o enillion net. Gan mai’r llywodraeth ganolog sy’n pennu’r gyfradd ac nid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, nid oes modd ei haddasu.

Manylion ar gyfer taliadau banc

Banc Barclays
36 Dunraven Place
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1JB
Cod didoli: 20-12-58
Rhif y cyfrif: 13415198
Enw’r cyfrif: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cofiwch ddyfynnu rhif cyfrif treth gyngor y cyflogai. Gwnewch sieciau’n daladwy i ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr’ a’u croesi. Cofiwch nodi rhif cyfrif treth gyngor y cyflogai ar gefn y siec.

Chwilio A i Y