Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trawsysgrif fideo Gwasanaethau Cymorth Cynnar Pen-y-bont ar Ogwr

Ar brydiau mae plant, pobl ifanc a'u teuluoedd angen ychydig o gymorth a chefnogaeth ychwanegol i gael bywydau hapus, iach a llwyddiannus.

Mae ein tîm Cymorth Cynnar yma i ddod o hyd i'r cymorth cywir ar yr amser cywir i chi, drwy wrando arnoch chi.

Mae teuluoedd wrth galon ein cymorth, o'r cychwyn cyntaf hyd at y diwedd.

Gallwn eich cefnogi chi gyda:

  • rhianta neu gyfathrebu gyda'ch plant, a rheoli ymddygiad heriol
  • cymorth llesiant a gwytnwch ar eich cyfer chi a'ch plant
  • materion ynghylch presenoldeb yn yr ysgol
  • cymorth ariannol a cham-drin domestig
  • tai a chyflogaeth

Sut mae cymorth cynnar yn gweithio:

Ar ôl i chi dderbyn atgyfeiriad, bydd gweithiwr Cymorth Cynnar yn trefnu i gwrdd â chi er mwyn cwblhau asesiad teulu llawn.

Byddwn yn siarad am gryfderau yn ogystal â meysydd a ellid eu gwella, ac yn edrych ar newidiadau yr hoffech chi eu gwneud i wella bywyd teuluol.

Ar ôl cwblhau'r asesiad gyda'ch gweithiwr cymorth, byddwch yn cytuno ar gynllun gweithredu.

Hefyd, efallai y byddwn yn cysylltu â sefydliadau eraill sydd wedi cefnogi eich teulu yn y gorffennol, neu a all eich helpu yn y dyfodol.

Chwilio A i Y