Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mynd i'ch biwro

Y Biwro Ieuenctid

Y biwro ieuenctid ac ymyriadau cyn llys 

Beth yw'r Biwro?

Dyma banel sy'n cynnwys cynrychiolydd o:

  • Heddlu De Cymru
  • Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr
  • aelod o'r gymuned a benodir gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (YJS) a'r Heddlu

Beth yw ei ddiben?

Diben y Biwro yw gwneud penderfyniadau am y ffordd fwyaf priodol o ddelio â throsedd.

Gall hyn gynnwys opsiynau fel:

  • penderfyniad adfer ieuenctid
  • rhybudd
  • rhybudd amodol

Bydd y Biwro’n delio â'r rhan fwyaf o droseddau heb eu cyfeirio i'r llys, ond o dan rhai amgylchiadau efallai mai hwn fydd y cam mwyaf priodol i’w gymryd.

Sut bydd y Biwro’n gwneud penderfyniad?

Bydd achos yn cael ei gyfeirio at y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a fydd yn cynnal asesiad manwl o'r holl faterion sy'n ymwneud â’r troseddu ac yn dyfeisio cynllun gweithredu i ddelio ag ef. Bydd hyn yn cynnwys:

  • ymweliad cartref wedi'i drefnu gan Swyddog YJS i gwrdd â'r person ifanc a'i riant (rhieni) / gofalwyr
  • bydd tîm Adfer YJS yn cysylltu â'r dioddefw(y)r er mwyn gofyn am eu barn
  • cyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Biwro sy'n cynnwys gwybodaeth ac argymhellion a fydd yn cynorthwyo gyda'r broses o wneud penderfyniadau

Pan fydd y Biwro’n cyfarfod, bydd yn ystyried y canlynol yn ofalus:

  • difrifoldeb y drosedd (troseddau).
  • i ba raddau mae'r person ifanc yn ysgwyddo cyfrifoldeb am ei weithredoedd.
  • ymateb y person ifanc yn ystod y cyfnod asesu.
  • y cynllun gweithredu gwirfoddol y cytunwyd arno gyda'r YJS.

Wedyn, bydd penderfyniad ar y cyd yn cael ei wneud am yr achos.

Ymyriad cyn y llys

Penderfyniad Adfer Ieuenctid

Mae'r penderfyniad adfer ieuenctid yn rhaglen wirfoddol sydd â'r nod o fynd i'r afael ag ymddygiad troseddol person ifanc.

Rhybudd Ieuenctid

Mae'r rhybudd ieuenctid yn rhaglen wirfoddol sydd â'r nod o fynd i'r afael ag achosion ymddygiad troseddol person ifanc. Er bod y rhaglen yn wirfoddol, byddai methu cydymffurfio â'r ymyriad hwn yn ystyriaeth wrth ddewis unrhyw opsiynau penderfynu yn y dyfodol.

Rhybudd Amodol Ieuenctid

Mae'r rhybudd amodol ieuenctid yn benderfyniad ffurfiol y tu allan i'r llys gydag ymyrraeth orfodol. Gall methu cydymffurfio â gofynion Rhybudd Amodol Ieuenctid arwain at erlyn am y drosedd wreiddiol.

Os ydych chi wedi cael mechnïaeth i fynychu'r Biwro Ieuenctid ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 657243

Chwilio A i Y