Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr
Nod Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr yw ailgysylltu pobl â natur. Mae'r bartneriaeth yn dod â chymunedau at ei gilydd i archwilio, darganfod a rhannu natur ar garreg eu drws. Gall hyn yn ei dro fod o fudd i'n bywyd gwyllt lleol.
Natur ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn gyforiog o fyd natur ac yn fosäig o gynefinoedd. Mae'r rhain yn cynnwys coetiroedd hynafol, glaswelltiroedd gwlyb a sialc, cymoedd afonydd, twyni tywod arfordirol a morfeydd heli. Mae’r cynefinoedd yn gartref i ffawna a fflora eithriadol amrywiol, gan gynnwys llawer o rywogaethau prin sy'n dirywio.
Mae'r sir yn cynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig a ddynodwyd yn Ewropeaidd (ACA Cynffig). Mae’r ardal hon yn cynnwys y ddwy Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG); Cynffig ar arfordir Morgannwg ger Porthcawl, a GNG Merthyr Mawr gerllaw.
Mae'r rhain yn rhan o system dwyni enfawr, a oedd unwaith yn ymestyn ar hyd yr arfordir o Afon Ogwr i benrhyn Gŵyr. Mae Pwll Cynffig yng nghalon y warchodfa ac mae'n arbennig o werthfawr fel llecyn am seibiant ar gyfer adar sy'n mudo. Pwll Cynffig sydd â'r llyn dŵr croyw mwyaf yn ne Cymru.
Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae PNL Pen-y-bont ar Ogwr yn dod ag amrywiaeth eang o sefydliadau at ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys unigolion sydd â diddordeb mewn byd natur lleol a chynrychiolwyr o:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Prifysgol Abertawe
- Plantlife
- Yr Ymddiriedolaeth Natur
- Parc Bryngarw
- Cadwch Gymru'n Daclus
Mae'r PNL yn rhan o rwydwaith adfer natur sy'n cynnwys 23 o bartneriaethau natur lleol ledled Cymru. Gyda'i gilydd, nod y partneriaethau hyn yw creu Cymru sydd â chyfoeth o fyd natur i bawb drwy rannu gwybodaeth, profiad ac arfer gorau.
Mae PNL Pen-y-bont ar Ogwr yn bodoli i:
- codi ymwybyddiaeth a diddordeb mewn cadwraeth natur
- cynnal a gwella bioamrywiaeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- cynyddu ymgysylltiad â gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur a datblygu sgiliau
- hybu camau gweithredu ac ymddygiadau i leihau'r pwysau ar rywogaethau a chynefinoedd lleol.
Cymryd rhan
Mae PNL Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd ac mae ei haelodau'n derbyn diweddariadau rheolaidd ar ffurf cylchlythyrau. Defnyddiwch y manylion cyswllt canlynol isod i gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ymuno â'n rhestr bostio.
Hefyd mae nifer o gyfleoedd gwirfoddoli gyda natur ar gael ledled y fwrdeistref sirol. Mwy o wybodaeth am wirfoddoli gyda phrosiect gwyrdd.