Gofal yn y cartref ac mewn cartrefi gofal
Gofal yn eich cartref eich hun
Os ydych chi’n ei chael hi'n anodd cyflawni anghenion gofal personol, fel gwisgo neu ymolchi, gall gofal yn y cartref, a elwir hefyd yn wasanaeth gofal yn y cartref, fod o gymorth i chi.
Gofal Preswyl (cartrefi gofal)
Mae gofal preswyl yn golygu gofal hir dymor sy'n cael ei roi i oedolion a phlant sy'n aros mewn lleoliad preswyl (cartref gofal) yn hytrach nag yn eu cartref eu hunain neu gartref y teulu. Mae nifer o opsiynau gofal preswyl ar gael, yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn.