Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diogelu oedolion sydd mewn perygl

Mae oedolyn sydd mewn perygl yn oedolyn:

  • sy’n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu sydd mewn perygl o hynny
  • sydd ag anghenion gofal a chymorth
  • nad yw’n gallu amddiffyn ei hun rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu’r perygl o hynny

 

Diffiniad o gam-drin ac esgeulustod

Gallai cam-drin fod yn gorfforol, yn rhywiol, yn seicolegol, yn emosiynol neu’n ariannol. Mae’n cynnwys cam-drin sy’n digwydd mewn unrhyw leoliad, boed hynny mewn tŷ preifat, mewn sefydliad neu mewn unrhyw le arall. Mae gan bawb yr hawl i fyw eu bywydau heb ddioddef trais, cam-drin a chamfanteisio. Rydym yn gweithio gydag asiantaethau partner i ddiogelu pobl.

 

Dyletswydd i wneud ymholiadau

Os yw awdurdod lleol yn amau bod rhywun yn ei ardal yn oedolyn mewn perygl, mae’n rhaid iddo wneud ymholiadau. Bydd hyn yn ei helpu i benderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau. Os bydd angen cymryd camau, mae’r ymholiadau hyn hefyd yn ei helpu i benderfynu beth sydd angen ei wneud a phwy ddylai ei wneud.

 

Beth i’w wneud os ydych chi’n amau bod oedolyn mewn perygl

Rhaid i chi roi gwybod i’r awdurdod lleol am oedolyn sydd mewn perygl.

Gallwch gysylltu â Thîm Diogelu Oedolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen yma.

Bydd yn gallu trafod eich pryderon gyda chi a’ch cynghori ynghylch pa gam i’w gymryd.

Bydd rhywun yn gwrando arnoch chi ac yn eich cymryd o ddifrif.

Tîm Diogelu Oedolion
Ffôn: 01656 642477
Cyfeiriad: Hwb Diogelu Aml Asiantaeth, Ravens Court, Bridgend, CF31 4AP.

Diogelwch ar ôl oriau arferol

Dîm Dyletswydd Argyfwng Cwm Taf Morgannwg
Ffôn: 01443 743665

Chwilio A i Y