Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig seremonïau llawn ar gyfer hyd at 50 o westeion yn Swit Pen-y-bont, ein hystafell seremoni sydd newydd gael trwydded.

Sut i ddod o hyd inni

Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB..

Ers inni agor, rydym wedi cynnal mwy na 500 o seremonïau ar gyfer cyplau o bob oed ac o bob rhan o Gymru a Lloegr.

  • System sain amgylchynol y gallwch ei defnyddio i chwarae eich cerddoriaeth eich hun i ychwanegu at eich diwrnod arbennig. Gallwch benderfynu cerdded i gyfeiliant cerddoriaeth glasurol neu gerddoriaeth roc – chi piau’r dewis!
  • Gardd lle gallwch dynnu lluniau cyn ac ar ôl eich seremoni.
  • Mae’r ystafell seremoni yn hygyrch i bawb, a cheir rampiau er mwyn i’ch holl westeion allu cymryd rhan yn llwyr yn eich diwrnod arbennig.
  • Ceir man parcio ar gyfer un car ac mae gorsafoedd trenau a bysiau gerllaw. Hefyd, ceir nifer o feysydd parcio o fewn pellter cerdded byr i’r fynedfa.

Hoffwn ddiolch o galon i holl staff gwych y swyddfa gofrestru am seremoni a gwasanaeth mor anhygoel gan eich tîm.

Fe wnaethon ni wenu a chwerthin trwy’r holl brofiad, hyd yn oed ar ôl sylweddoli nad oedd gan yr un ohonon ni sbectol i ddarllen a llofnodi’r gofrestr.

Diolch, diolch, diolch! Rydych chi’n anhygoel ac rydyn ni’n llwyr werthfawrogi eich ymdrechion, eich cymorth a’ch caredigrwydd.

Mr and Mrs Daley

Rydym yn cynnig amrywiaeth o seremonïau, yn cynnwys Priodasau, Partneriaethau Sifil, Seremonïau Enwi, Seremonïau Ymrwymo a Seremonïau Adnewyddu Addunedau Priodas.

Hefyd, cawn yr anrhydedd o gynnal seremonïau dinasyddiaeth gydag Uchel Siryf Morgannwg Ganol, cynrychiolwyr yr Arglwydd Raglaw a Maer Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Roedd y gwasanaeth cyffredinol yn wych. Roedd y swyddogion cofrestru yn hawddgar ac fe wnaethon nhw lwyddo i wneud y seremoni’n arbennig iawn i ni. Diolch yn fawr iawn.

Joanne Richards

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu’ch seremoni, llenwch ein ffurflen ar-lein:

Chwilio A i Y