Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Partïon stryd a digwyddiadau anfasnachol ar briffyrdd

Os ydych yn bwriadu cynnal parti neu ddigwyddiad anfasnachol ar briffordd gyhoeddus – er enghraifft ras hwyl, achlysur cynnau goleuadau Nadolig neu ddigwyddiad cymunedol bach – efallai y bydd angen ichi wneud cais i gau’r ffordd.

  • Os lleolir y digwyddiad ar dir sy’n eiddo i’r cyngor, neu os caiff ei gynnal ar stryd / priffordd, cysylltwch â’r awdurdod lleol cyn gynted â phosibl.

  • Bydd y cyngor yn cefnogi ceisiadau i gau ffyrdd ar gyfer cynnal digwyddiadau cyn belled ag y bydd y lleoliad yn addas ar gyfer y digwyddiad dan sylw – er enghraifft heol bengaead neu is-ffordd heb lawer o draffig.

  • Ni chaniateir cau rhai ffyrdd e.e. llwybrau bysiau neu er mwyn sicrhau mynediad mewn argyfwng. Ni fydd priffyrdd cyhoeddus a ddosberthir fel ffyrdd A, B eu C yn addas ar gyfer gwneud cais i’w cau. Os ydych yn gwneud cais i gynnal digwyddiad ar y ffyrdd hyn, bydd angen ichi gysylltu â’r tîm gwaith stryd mewn da bryd cyn cynnal y digwyddiad – 54 diwrnod fan leiaf. Hefyd, bydd angen ichi geisio cyngor gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau (gweler yr wybodaeth ar waelod y nodyn hwn).

 

Cyn cyflwyno cais

Cyn cyflwyno cais i gau ffordd, bydd angen ichi ystyried rhai pethau:

  • Bydd yn rhaid i’r ceisiadau ddangos bod preswylwyr y stryd yn cefnogi’r syniad o gau’r ffordd. Dylid enwi trefnydd dynodedig a fydd yn gwbl gyfrifol am gynnal y parti a chau’r ffordd, gan nodi ei fanylion cyswllt. Disgwyliwn gael rhestr o bobl y cysylltwyd â nhw – y rhai sy’n cefnogi ac yn gwrthwynebu’r cynnig i gau’r ffordd. Yn achos preswylwyr sy’n gwrthwynebu’r cynnig, bydd angen ichi ystyried eu pryderon a’u nodi yn y cais.

  • Bydd yn rhaid i’r trefnydd dynodedig gyflwyno manylion yn dangos bod asesiad risg wedi’i gwblhau, a bod mesurau priodol ar waith gogyfer cau’r ffordd yn ddiogel, cyfyngu ar fynediad i draffig er diogelwch y cyhoedd a sicrhau y bydd y ffordd ar gau drwy gydol y digwyddiad.

  • Fel parti preifat, dan reoliadau trwyddedu ni fyddwch angen trwydded i werthu bwyd oni bai eich bod yn bwriadu gwerthu diodydd a bwydydd poeth ar ôl 11pm yn unig. Beth am drefnu gyda’ch cymdogion i ddod â bwyd i’r digwyddiad i’w rannu – dyma ffordd dda o ddod â grwpiau gwahanol o bobl ynghyd.

  • Os ydych yn dymuno cael bar lle bydd pobl yn talu am ddiodydd, os ydych yn bwriadu cynnig adloniant i’r cyhoedd ehangach neu os ydych yn bwriadu codi ffi er mwyn codi arian ar gyfer eich digwyddiad, byddwch angen Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro. Bydd yn rhaid talu ffi am hwn a bydd angen ichi roi 10 diwrnod gwaith o rybudd fan leiaf. Os yw eich digwyddiad yn debygol o gynnwys mwy na 500 o bobl, byddwch angen Trwydded Safle.

  • Yn achos partïon bach ar strydoedd preswyl, argymhellir eich bod yn cael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, ond nid yw hyn yn gwbl hanfodol. Fodd bynnag, byddai’n syniad da ichi ystyried cael yswiriant o’r fath ar gyfer digwyddiadau trefnedig mawr. I gael rhagor o gyngor ynglŷn â hyn, edrychwch ar www.streetparty.org.uk

  • Ystyriwch a fydd rhywun â hyfforddiant ac offer Cymorth Cyntaf wrth law yn eich digwyddiad. Os yw’r digwyddiad yn debygol o greu sŵn, rhowch wybod ymlaen llaw i gymdogion a busnesau yn yr ardal a rhowch fanylion cyswllt y trefnydd iddynt rhag ofn i broblemau godi.

  • Sylwer: ni chaniateir gosod pethau fel cestyll neidio, gasebos a cheffylau bach cae ffair ac ati ar briffyrdd cyhoeddus.

  • Cofiwch y bydd yn rhaid ichi lanhau ar ôl eich parti stryd er mwyn helpu i gadw’r ardal yn lân ac yn daclus. Rhowch wybod i bobl ymlaen llaw faint o’r gloch y bydd y parti’n dod i ben, a neilltuwch le ar gyfer bagiau sbwriel ac eitemau i’w hailgylchu.

Gwneud cais i gau ffordd

Yn achos ceisiadau sy’n bodloni’r ddau bwynt cyntaf, bydd angen eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, ond fan leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y bwriedir cynnal y digwyddiad.

Er na chodir tâl am geisiadau i gau ffyrdd dros dro, rhaid cyflwyno’r holl geisiadau o fewn 10 diwrnod gwaith cyn y dyddiad y bwriedir cynnal y digwyddiad.

I wneud cais, llenwch ffurflen gais a’i hanfon i’r cyfeiriad e-bost hwn: streetparty@bridgend.gov.uk

Y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau

Mae’r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau yn rhoi cyngor ac arweiniad i drefnwyr ynglŷn â diogelwch eu digwyddiadau arfaethedig.

Mae’r Grŵp Cynghori hwn yn ystyried gofynion digwyddiadau cyhoeddus mawr lle disgwylir mwy na 500 o fynychwyr. Efallai y bydd digwyddiadau llai angen cysylltu â’r Grŵp Cynghori hefyd, gan ddibynnu ar natur y digwyddiad.

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld a oes angen ichi hysbysu’r Grŵp Cynghori ynglŷn â’ch digwyddiad, ewch i’n tudalen Trefnu Digwyddiad.

Chwilio A i Y