Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llwybrau Teithio Llesol

Cerdded neu feicio teithiau byr bob dydd yw Teithio Llesol Mae’n cynnwys teithio i’r ysgol, gwaith, gwasanaethau a hybiau trafnidiaeth. Hefyd, gall gynnwys defnyddio cadeiriau olwyn trydanol neu sgwteri symudedd. Ond nid yw’n cynnwys teithiau hamdden yn unig, na rhai at ddibenion cymdeithasol.

Dewch o hyd i lwybrau defnyddiol yn eich cymuned

Mae’r llwybrau canlynol yn wych ar gyfer Teithio Llesol. Maent ar y 'Mapiau Llwybr Presennol', sy’n dangos manylion y llwybrau Teithio Llesol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru. Nid yw’r mapiau hyn yn dangos pob llwybr cerdded neu feicio mewn ardal, dim ond y rhai rydym wedi eu pennu fel rhai addas ar gyfer Teithio Llesol.

Mapiau o lwybrau defnyddiol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Llwybrau i gerddwyr Llwybrau beicio
Llwybrau i gerddwyr, Betws Llwybrau beicio Betws
Llwybrau i gerddwyr, Pen-y-bont, map 1 Llwybrau beicio Pen-y-Bont, map 1
Llwybrau i gerddwyr, Pen-y-bont, map 2 Llwybrau beicio Pen-y-bont, map 2
Llwybrau i gerddwyr, Pen-y-Bont, map 3 Llwybrau beicio Pen-y-bont, map 3
Llwybrau i gerddwyr, Pen-y-Bont, map 4 Llwybrau beicio Pen-y-bont, map 4
Llwybrau i gerddwyr, Pen-y-bont, map 5 Llwybrau beicio Pen-y-Bont, map5
Llwybrau i gerddwyr, Gilfach Goch Llwybrau beicio Gilfach Goch
Llwybrau i gerddwyr, Maesteg, map 1 Llwybrau beicio Maesteg, map 1
Llwybrau i gerddwyr, Maesteg, map 2 Llwybrau beicio Maesteg, map 2
Llwybrau i gerddwyr, Cwm Ogwr, map 1 Llwybrau beicio Cwm Ogwr, map 1 
Llwybrau i gerddwyr, Cwm Ogwr, map 2 Llwybrau beicio Cwm Ogwr, map 2
Llwybrau i gerddwyr, Cwm Ogwr, map 3 Llwybrau beicio Cwm Ogwr, map 3
Llwybrau i gerddwyr, Pencoed Llwybrau beicio Pencoed
Llwybrau i gerddwyr, Pontycymer, map 1 Llwybrau beicio Pontycymer, map 1
Llwybrau i gerddwyr, Pontycymer, map 2 Llwybrau beicio Pontycymer, map 2
Llwybrau i gerddwyr, Pontycymer, map 3 Llwybr Beicio Pontycymer, map 3
Llwybrau i gerddwyr, Porthcawl Llwybrau beicio Porthcawl
Llwybrau i gerddwyr, y Pîl Llwybrau beicio'r Pîl

Map Trosolwg

Edrychwch ar y Map Trosolwg i weld yr holl ardaloedd a’r llwybrau sydd yn y Mapiau Llwybrau Presennol ar gyfer yr anheddau. 

Cynigion Llwybrau’r Dyfodol

Mae gennym hefyd gynlluniau manwl ar gyfer rhwydwaith o lwybrau a chyfleusterau Teithio Llesol dros y 15 mlynedd nesaf. Mae’r rhain ar ein Mapiau Rhwydwaith Integredig.

Nodau’r cynigion yw:

  • gwella mynediad at wasanaethau allweddol yn cynnwys canol trefi, hybiau trafnidiaeth yn ogystal â chyflogaeth ac ardaloedd manwerthu
  • datblygu mynediad at gyfleusterau addysg megis ysgolion a cholegau
  • gwella ac ehangu’r rhwydwaith strategol presennol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Gweld ein Mapiau Rhwydwaith Integredig.

Mae gweithredu cynigion y Mapiau Rhwydwaith Integredig yn dibynnu ar gyllido. Hefyd, mynegol yw cynigion y Mapiau Rhwydwaith Integredig ac mae’n bosibl y newidiant wrth i’r cynlluniau ddatblygu.

Ein cyfrifoldebau cyfreithiol

Ym mis Medi 2014, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Llesol (Cymru). Mae’r mesur hwn yn rhoi gofyn cyfreithiol ar awdurdodau lleol Cymru i fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer Teithio Llesol mewn rhai ardaloedd, fel y noda Llywodraeth Cymru.

Gweld rhagor am y Ddeddf Teithio Llesol ar wefan Llywodraeth Cymru. Hefyd, ewch i wefan Llywodraeth Cymru am fanylion ynghylch yr ardaloedd dynodedig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-Bont.

Proses creu’r mapiau

Roedd cam cyntaf y Ddeddf yn gofyn i ni gynhyrchu Mapiau Llwybrau Presennol. Wedi ymgynghoriad cyhoeddus 16 wythnos, bu i ni gyflwyno ein mapiau drafft Llwybrau Presennol ym mis Ionawr 2016 a chadarnhaodd Llywodraeth Cymru nhw ar 12 Awst 2016.

Mae llwybrau’r mapiau wedi eu hasesu yn ôl safonau Llywodraeth Cymru. Er bod rhan fwyaf y llwybrau’n bodloni’r canllaw ac yn addas ar gyfer Teithio Llesol, methodd rhai â tharo deuddeg o fymryn. Fodd bynnag, rydym yn dal i ystyried bod y canlynol yn bwysig ar gyfer Teithio Llesol. Darllenwch ein Datganiad Map Llwybrau Presennol am eglurhad o pam y mae’r llwybrau hyn yn briodol.

Ar gyfer ail gam y Ddeddf, bu i ni gynhyrchu Mapiau Rhwydwaith Integredig. Wedi ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos, bu i ni gyflwyno ein Mapiau drafft ym mis Tachwedd 2017 a chymeradwyodd Llywodraeth Cymru nhw ar 27 Chwefror 2018.

I weld y Mapiau Llwybrau Presennol mewn ffurfiau gwahanol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod:

Cyswllt

Tîm Polisi a Datblygu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642528
Cyfeiriad: Gwasanaethau’r Strydlun, Adran Strydlun, Cyfarwyddiaeth Cymunedau, Swyddfeydd Dinesig, Pen-y-Bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Adroddiadau Blynyddol

Mae’n rhaid i ni gynhyrchu adroddiadau blynyddol yn nodi:

  • camau gweithredu o’r flwyddyn ariannol gynt i hyrwyddo Teithio Llesol
  • costau llwybrau a chyfleusterau Teithio Llesol newydd neu well
  • lefelau defnyddio llwybrau Teithio Actif

Adroddiadau blynyddol blaenorol

Chwilio A i Y