Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Graeanu ffyrdd a phalmentydd

Yn ystod tywydd oer, rydyn ni’n derbyn rhagolygon penodol am y tywydd deirgwaith y dydd. Mae’r rhagolygon yn sôn am dir uchel mewndirol, tir isel mewndirol ac ardaloedd yr arfordir.

Hefyd rydyn ni’n gofalu am bum gorsaf dywydd mewn gwahanol leoliadau ledled y fwrdeistref sirol. Mae’r rhain yn defnyddio offer fel synwyryddion rhew i roi manylion i ni am bethau fel amodau atmosfferig a thymheredd arwynebau’r ffyrdd lleol.

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddarogan yr amodau tywydd tebygol ac i weld a fydd angen gweithredu.

 

Defnydd o gerbydau graeanu

Pan mae’n mynd yn oer iawn, rydyn ni’n defnyddio nifer o gerbydau arbenigol, fel loriau graeanu, i gadw’r ffyrdd yn glir a’r traffig yn symud. Os oes disgwyl rhew, rydyn ni’n trin y rhannau sy’n cael eu defnyddio fwyaf o’r rhwydwaith ffyrdd gyda halen craig mân i atal rhew a barrug

Mae graeanu’r ffyrdd yn dibynnu ar nifer o ffactorau, fel lleithder a chlosrwydd.

Nid yw’n effeithiol rhoi halen ar ben eira ffres, felly ni fyddwch yn gweld cerbyd graeanu’n gwneud hyn pan mae’n bwrw eira. Rhaid clirio’r ffyrdd gydag aradr eira cyn bod posib eu trin. Rhaid i ni fod yn ofalus iawn o ran pryd a sut mae ffyrdd yn cael eu trin oherwydd mae halen yn llawer llai effeithiol pan mae’r tymheredd yn gostwng o dan -10 gradd Celsius.

Mae’r cyngor yn defnyddio offer arbenigol i gynorthwyo i glirio llwybrau ac ardaloedd i gerddwyr sydd â blaenoriaeth

Rydym yn cynnal hyd at 5,100 tunnell o halen ac mae cynlluniau yn eu lle i gael cyflenwadau ychwanegol yn ystod cyfnodau hir o dywydd gaeafol difrifol. Hefyd rydyn ni’n cydweithio ag awdurdodau cyfagos i roi a derbyn help yn ôl yr angen.

Bob blwyddyn, mae’r tîm Priffyrdd yn paratoi cynllun cynnal a chadw dros y gaeaf sy’n datgan sut byddwn yn darparu gwasanaethau yn ystod misoedd oerach y gaeaf.

 

Graeanu llwybrau

Mae’r cynllun yn nodi pa lwybrau sydd angen eu blaenoriaethu er mwyn cadw traffig yn symud ledled y fwrdeistref sirol. Yr enw ar y rhain yw’r prif lwybrau halltu. Hefyd mae’r cynllun yn nodi llwybrau halltu eilaidd, sy’n cynnwys ffyrdd eraill a nifer o strydoedd preswyl.

Byddwn yn sicrhau bod amser bod y prif lwybrau’n parhau i gael eu halltu a’u clirio fel bod traffig a thrafnidiaeth gyhoeddus yn gallu symud yn hwylus drwy’r ardal.

Ar ôl gwneud hyn, byddwn yn rhoi sylw i’r llwybrau eilaidd a rhai ffyrdd ychwanegol. Mae hyn yn dibynnu ar ragolygon y tywydd o ran am ba mor hir mae disgwyl i’r tywydd drwg bara ac am faint mae disgwyl i’n stoc ni o halen bara.

Er ei bod yn cymryd sawl diwrnod i ni gwblhau hyn fel rheol, rydym yn rhoi ystyriaeth benodol i fannau ble ceir y canlynol:

  • gelltydd serth iawn
  • llwybrau bws
  • canolfannau ar gyfer y gwasanaethau brys
  • ffyrdd yn arwain at rai o gymunedau mwy ynysig y fwrdeistref sirol
  • safleoedd diwydiannol
  • ysgolion
  • ffyrdd yn arwain at gartrefi gofal
  • canolfannau ailgylchu i dai
  • mynwentydd
  • meddygfeydd

Hefyd rydym yn defnyddio staff i glirio rhew ac eira a graeanu palmentydd a llwybrau cerdded mewn ardaloedd prysur i gerddwyr, fel canol trefi.

Byddwn yn ymateb i drigolion er mwyn eu helpu i barhau i dderbyn triniaeth feddygol hanfodol, fel dialysis arennau. Bydd rhaid i chi aildrefnu unrhyw apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys gyda’ch meddyg teulu neu feddyg ymgynghorol.

Chwilio A i Y