Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor cynllunio cyn gwneud cais

Rydym yn eich annog ac yn eich croesawu i wneud ymholiadau am gyngor cyn cyflwyno cais.

Mae dwy ffordd o weld cyngor cynllunio cyn cais. Y gwasanaeth statudol yw’r cyntaf, sy’n codi tâl sefydlog y mae Llywodraeth Cymru’n penderfynu arno, a gwasanaeth ychwanegol, mwy cynhwysfawr yw’r ail.

Gwasanaeth cyn cais statudol Llywodraeth Cymru

Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gwasanaethau Cyn Ymgeisio) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaeth cyn cais statudol.

Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen ymholiad am gyngor cyn gwneud cais wedi ei chwblhau sy’n cynnwys gwybodaeth benodol. Man lleiaf bydd gofyn iddynt ddarparu:

  • enw, cyfeiriad a’ch manylion cyswllt
  • Disgrifiad o’r cynnig, gan gynnwys arwydd o’r cynnydd yn y gofod llawr, a/neu nifer yr unedau newydd arfaethedig
  • cyfeiriad y safle
  • cynllun lleoliad
  • ffi

Mae’r ffi y gellir ei godi ar gyfer gwasanaethau cyn gwneud cais statudol yr un fath dros Gymru, er y gallent amrywio gan ddibynnu ar faint a graddfa’r datblygiad arfaethedig. Y ffioedd yw:

  • Perchennog tŷ: £25
  • Mân ddatblygiad: £250
  • Datblygiad sylweddol: £600
  • Datblygiad mawr sylweddol: £1,000

Mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i ni roi ymateb ysgrifenedig i bob ymholiad cyn cais dilys o fewn 21 o ddiwrnodau, oni gytunir ar estyniad amser.

Fan lleiaf, dylai ymgeiswyr am ddatblygiadau deiliaid tŷ ddisgwyl cael y wybodaeth ganlynol yn yr ymateb ysgrifenedi:

  • hanes cynllunio perthnasol y safle
  • y polisïau cynllun datblygu perthnasol fydd yn sail i asesiadau o’r cynnig datblygu
  • canllawiau cynllunio atodol perthnasol, er enghraifft, gwybodaeth ddylunio neu gadwraeth
  • unrhyw ystyriaethau cynllunio sylweddol
  • asesiad cychwynnol o’r datblygiad arfaethedig, ar sail y wybodaeth uchod

For all other development proposals, applicants should also be informed whether any Section 106 or Community Infrastructure Levy contributions are likely to be needed, and information on what these contributions may include.

Yn achos pob datblygiad datblygu arall, dylai ymgeiswyr gael gwybod p’un a fydd unrhyw gyfraniadau Adran 106 neu Ardoll Seilwaith Cymunedol yn debygol o fod yn ofynnol, a gwybodaeth am yr hyn allasai fod yn rhan o’r cyfraniadau hynny.  

Fyddwn ni ddim yn derbyn ffurflen gais am gyngor cyn cais oni thelir y ffi briodol.

Gwasanaeth cyn cais anstatudol ychwanegol

Hyrwyddo gwaith datblygu o safon yw’n nod.

Mae Llywodraeth Cymru’n annog awdurdodau cynllunio lleol i ddarparu gwasanaeth cyn cais mwy cynhwysfawr na’r hyn sy’n ofynnol yn statudol, ac mae’n cydnabod y bydd angen i ni godi tâl ychwanegol amdano.

Ni fydd cyngor ysgrifenedig, cyngor nac ymweliadau safle ychwanegol yn rhan o ymholiadau cyn cais yn rhan o’r gwasanaeth statudol.

Mae’r ddogfen isod yn amlinellu’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gan ein canllawiau cynllunio cyn cais.

Cyswllt

Adran Gynllunio

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643155
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Chwilio A i Y