Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rhoi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym ni ar unwaith os yw eich amgylchiadau wedi newid mewn ffordd a allai effeithio ar eich budd-daliadau.

Nid yw dweud wrth un o adrannau eraill y Llywodraeth fel Cyllid y Wlad, y Ganolfan Byd Gwaith neu’r Adran Gwaith a Phensiynau yn golygu y byddwn ni’n cael gwybod am unrhyw newidiadau.

Pryd i ddweud wrthym ni am newidiadau

Dywedwch wrthym ni cyn gynted â phosib am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau. Os na wnewch chi, fe allech chi golli taliadau neu fe allem dalu gormod o fudd-daliadau i chi.

Os ydych chi’n dweud wrthym ni o fewn mis, byddwn fel arfer yn cyfrifo eich swm newydd o fudd-daliadau o’r dydd Llun ar ôl i’r newid ddigwydd.

Os byddwch yn rhoi gwybod i ni rywbryd ar ôl hynny a bod y newid yn cynyddu eich taliadau, dim ond o’r dydd Llun ar ôl i chi roi gwybod i ni y gallwn gyfrifo’r budd-daliadau newydd. Byddai hyn yn golygu eich bod chi’n colli arian.

Os yw’r newid yn lleihau eich budd-daliadau, byddwn bob amser yn cyfrifo eich cyfradd newydd o’r dydd Llun ar ôl i’r newid ddigwydd. Os byddwch yn oedi cyn rhoi gwybod i ni, efallai y byddwn yn talu gormod o fudd-daliadau i chi ac y bydd yn rhaid i chi eu talu nhw’n ôl. Ar gyfer gostyngiad yn y dreth gyngor, byddwn yn addasu eich cyfrif treth gyngor, ac fe gewch fil newydd yn dangos bod gennych chi fwy i’w dalu.

Beth i’w ddweud wrthym ni

Dylech ddweud wrthym beth sydd wedi newid a’r dyddiad y digwyddodd y newid hwn, gan roi cymaint o fanylion â phosib. Er enghraifft, byddai’n rhaid i ni wybod enw llawn a dyddiad geni rhywun sydd wedi symud i fyw atoch chi. Dylech hefyd nodi’r dyddiad y gwnaethant symud i fyw atoch chi.

Fel arfer, mae angen rhyw fath o brawf arnom o unrhyw newidiadau, a gallwch uwchlwytho dogfennau wedi’u llungopïo drwy ein ffurflen Fy Nghyfrif. Gallwch lungopïo dogfennau am ddim yn y dderbynfa Budd-daliadau yn y Swyddfeydd Dinesig, neu mewn unrhyw lyfrgell leol. Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu’r dogfennau gwreiddiol, ac mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael yma.

Os nad oes gennych chi unrhyw dystiolaeth, peidiwch ag oedi cyn dweud wrthym ni am y newid. Gallwch ddarparu prawf rywbryd eto pan fydd ar gael.

Rhai newidiadau penodol i roi gwybod i ni amdanyn nhw

Dyma esiamplau o rai o’r pethau y dylech ddweud wrthym ni amdanyn nhw.

Newidiadau mewn budd-daliadau

Er enghraifft, dywedwch wrthym os ydych chi neu’ch partner yn rhoi’r gorau i gael y canlynol:

  • cymhorthdal incwm
  • lwfans chwilio am waith
  • unrhyw fudd-dal arall

Newidiadau mewn incwm

Er enghraifft, dywedwch wrthym os bydd newid i un o’r rhain o safbwynt eich partner neu chi’ch hun:

  • cyflogau
  • credydau treth
  • cynhaliaeth
  • pensiwn
  • unrhyw incwm arall

Y bobl sy’n byw gyda chi

Er enghraifft, dywedwch wrthym ni:

  • os bydd unrhyw un yn symud i mewn atoch chi neu’n symud allan
  • os bydd rhywun sy’n byw gyda chi’n dechrau gweithio neu’n stopio gweithio
  • os oes newid yn incwm rhywun sy’n byw gyda chi
  • os oes plentyn yn cael ei eni
  • os oes plentyn yn gadael yr ysgol

Cyfrifon banc, cynilion a buddsoddiadau

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym ni os oes unrhyw newidiadau yn eich cyfrifon banc, cynilion neu fuddsoddiadau eraill. Er hynny, nid oes angen i chi ddweud wrthym am newidiadau o ddydd i ddydd i’ch cyfrif cyfredol, neu werth cyfranddaliadau’r farchnad stoc.

Tai rhent preifat

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym ni:

  • os yw eich landlord yn cynyddu neu’n lleihau eich rhent
  • os yw’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnwys yn eich rhent yn newid
  • os yw’r rhan o’r eiddo rydych chi’n byw ynddi’n newid

Newidiadau eraill

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym ni os byddwch chi:

  • yn symud
  • yn byw i ffwrdd o’ch cartref
  • yn dod yn fyfyriwr neu’n gorffen cwrs
  • yn mynd i’r ysbyty
  • yn mynd i’r carchar
  • yn cael partner o’r un rhyw, os yw’ch partneriaeth wedi’i chofrestru mewn seremoni sifil ai peidio

Nid yw’r uchod yn cynnwys yr holl newidiadau mae angen i ni wybod amdanynt. Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen i ni wybod am newid, dywedwch wrthym beth bynnag. Peidiwch â’i adael tan y tro nesaf y byddwch yn llenwi ffurflen hawlio.

 

Chwilio A i Y