Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Apeliadau gostyngiad treth gyngor a budd-daliadau

Apeliadau ar gyfer budd-daliadau tai

Mae rheoliadau arbennig yn dweud wrthym ni sut i benderfynu ar eich budd-dal, sut i dalu eich budd-dal a sut i adfer unrhyw fudd-dal sydd wedi’i ordalu.

Mae gennych hawl i’r canlynol:

  • gwybod sut rydym wedi cyfrif eich budd-dal
  • gofyn am esboniad ynghylch unrhyw benderfyniad rydym wedi’i wneud
  • gofyn i ni edrych ar eich hawliad eto
  • herio unrhyw benderfyniad rydym wedi’i wneud
  • gofyn i dribiwnlys apelio annibynnol edrych ar unrhyw benderfyniad rydym wedi’i wneud

Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am ein penderfyniad, rhaid i chi gysylltu â ni ar unwaith. Gallwch ofyn am ddatganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros y penderfyniad, a bydd y datganiad yn nodi’r canlynol:

  • yr wybodaeth rydym wedi’i defnyddio i wneud ein penderfyniad
  • sut mae eich budd-dal wedi cael ei gyfrif
  • y ffordd mae unrhyw ordaliad wedi cael ei gyfrif, os yw hynny’n berthnasol
  • y budd-dal tai perthnasol, y rheoliadau gostyngiad treth gyngor/lwfans tai lleol sy’n cael eu defnyddio yn ein penderfyniad a pham maent yn berthnasol ai peidio

Gallwch ofyn i ni edrych ar eich hawliad eto neu gallwch apelio yn erbyn ein penderfyniad. Dim ond mis o ddyddiad y llythyr penderfynu fydd gennych chi i wneud y naill neu’r llall o’r pethau hyn.

 

Rhaid i chi ofyn am hyn yn ysgrifenedig. Byddwn yn gwirio bod y penderfyniad yn gywir ac, os bydd y penderfyniad yn anghywir, byddwn yn ei newid. Os nad oes modd newid y penderfyniad, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi. Yn y naill achos neu’r llall, mae’r cyfyngiad amser o fis yn dechrau eto os ydych yn apelio.

Os ydych chi eisiau apelio yn erbyn y penderfyniad, rhaid i chi ddweud wrthym o fewn mis i ddyddiad y llythyr penderfynu. Neu, os ydych chi wedi gofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto, rhaid i chi ddweud wrthym o fewn mis i ddyddiad y penderfyniad hwnnw.

Rhaid i chi wneud y canlynol:

  • ysgrifennu’r penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn
  • y rhesymau dros eich apêl
  • sicrhau eich bod yn ei llofnodi

Os bydd ein penderfyniad yn anghywir, byddwn yn ei newid. Os nad oes modd newid penderfyniad, bydd y gwasanaeth apeliadau’n edrych ar eich apêl mewn gwrandawiad tribiwnlys. Mae’r tribiwnlys yn annibynnol ar y cyngor. Mae’n cynnwys pobl sydd â chymwysterau cyfreithiol sydd wedi’u hyfforddi ym maes budd-dal tai a lwfans tai lleol.

Os yw eich apêl yn hwyr, rhaid i chi gynnwys esboniad ynghylch pam na allech apelio o fewn mis.

Sylwer nad yw rhai penderfyniadau’n cynnwys hawl i apelio.

Apeliadau ar gyfer gostyngiad treth gyngor

Dylech ddal ati i dalu eich bil gwreiddiol bob amser nes bod penderfyniad wedi cael ei wneud ynghylch eich apêl.

Nid budd-dal yw gostyngiad treth gyngor ac mae’r broses apelio’n wahanol i’r broses ar gyfer budd-dal tai. Os ydych yn anghytuno â’n penderfyniad, bydd rhaid i chi ysgrifennu atom ni ac esbonio pam rydych yn meddwl bod y penderfyniad yn anghywir. Rhaid gwneud hyn cyn gynted â phosib ar ôl i ni wneud ein penderfyniad.

Anfonwch eich llythyr wedi’i lofnodi atom ni yn nodi natur yr apêl a rhowch dystiolaeth ychwanegol os yw hynny’n briodol.

Byddwn yn ystyried y mater ymhellach a rhaid i ni ateb o fewn dau fis i roi gwybod i’r parti dan sylw am ein penderfyniad.

Os nad ydych yn fodlon gyda’r penderfyniad wedyn, dylech apelio yn ysgrifenedig i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Cyswllt

Tribiwnlys Prisio Cymru
Rhanbarth De Cymru
Gold Tops
Casnewydd
NP20 4PG

Os yw’r ddau barti’n cytuno, bydd y tribiwnlys wedyn yn rhoi sylw i’r achos drwy safbwyntiau ysgrifenedig. Fel arall, bydd dyddiad yn cael ei bennu ar gyfer gwrandawiad ffurfiol. Dim ond os byddwch yn dewis cael cyfreithiwr fydd rhaid i chi dalu costau, a byddwn yn cadw at benderfyniad y tribiwnlys.

 

Chwilio A i Y