Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Taflu sbwriel

Mae taflu sbwriel mewn man cyhoeddus yn drosedd. Gwaredwch eich sbwriel yn gyfrifol, ailgylchwch ef neu ei roi yn y bin.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chadwch Gymru'n Daclus i hyrwyddo ymddygiad da a lleihau'r taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon sy'n digwydd yn y fwrdeistref sirol.

Bob mis, rydym yn archwilio sawl stryd i asesu pa mor lân ydynt. Mae hyn yn ein galluogi i wneud cymhariaeth flwyddyn ar ôl blwyddyn yn unol ag Adroddiad System Archwilio a Rheoli’r Amgylchedd Lleol.

Rydym hefyd yn cefnogi prosiectau lleol i hyrwyddo parthau dim sbwriel, sesiynau clirio traethau, rhaglenni addysgol i ysgolion ac ymgyrchoedd yn erbyn baw cŵn.

 

Hysbysiadau Cosb Benodedig

Pe baech yn gollwng sbwriel mewn man cyhoeddus byddwch yn cyflawni trosedd. Gallwch gael Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £100 dan rym Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.

Adrodd achos o daflu sbwriel neu offer miniog/nodwyddau

Gallwch adrodd achos o daflu sbwriel neu offer miniog/nodwyddau/cyfarpar cyffuriau wrthym drwy'r wefan Fix My Street:

Ble rhoddir nodwyddau at ddibenion meddygol, fel arfer bydd 'blwch offer miniog' melyn yn cael ei ddarparu er mwyn cael gwared arnynt yn ddiogel a darperir gwybodaeth ynghylch eu dychwelyd. I sicrhau diogelwch eraill wrth storio, holwch ynghylch cadw a dychwelyd nodwyddau wrth iddynt gael eu dosbarthu.

Hybiau Codi Sbwriel

Mae nifer o Hybiau Codi Sbwriel lle allwch fenthyca offer am ddim a helpu i warchod eich ardal leol.

Gall Cadwch Gymru’n Daclus ddarparu amrywiaeth o offer a chymorth i wirfoddolwyr, yn cynnwys:

  • Canllawiau iechyd a diogelwch
  • Teclynnau codi sbwriel
  • Festiau llachar
  • Bagiau sbwriel a hŵps

I ddod o hyd i'ch Hwb Codi Sbwriel lleol a gwybodaeth ynghylch sut mae mynd ati i fenthyca offer, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus:

Dod yn Hyrwyddwr Codi Sbwriel

Mae gan Hyrwyddwyr Codi Sbwriel un peth yn gyffredin – maent yn frwd dros eu cymunedau ac eisiau gwneud gwahaniaeth. Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn darparu'r holl offer, y gefnogaeth a'r yswiriant mae gwirfoddolwyr ei angen i fynd ati i lanhau'r amgylchedd ar eu hiniog yn ddiogel.

Chwilio A i Y