Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwastraff gardd

Diweddariad am ailgylchu a gwastraff dros Ŵyl y Banc

Ni fydd casgliadau ar ddydd Llun 6 Mai 2024.
Bydd casgliadau’n digwydd un diwrnod yn hwyrach, o ddydd Mawrth 7 Mai tan ddydd Sadwrn 11 Mai.
Rhowch eich gwastraff ac ailgylchu o flaen eich eiddo erbyn 7am ar eich diwrnod casglu os gwelwch yn dda.
Bydd canolfannau ailgylchu cymunedol yn Y Pîl, Brynmenyn a Maesteg yn parhau ar agor fel arfer.

Mae’r casgliad gwastraff gardd ar gael i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae gwastraff gardd yn cael ei gasglu bob pythefnos rhwng misoedd Mawrth a Thachwedd (18 Mawrth ac 15 Tachwedd 2024).

Rhowch eich gwastraff gardd o flaen eich tŷ rhwng 7pm y noson cynt a 7am ar ddiwrnod y casgliad.  

Sylwer: Byddwch yn cael gwybod pa ddiwrnod yw’r diwrnod casglu eich gwastraff gardd pan fydd eich sachau’n cael eu dosbarthu.

 

Cost

Codir ffi flynyddol o £50 fesul cartref, neu £45 i bensiynwyr. Mae pob cartref sy’n cofrestru’n cael dau fag gardd i gasglu a storio gwastraff gardd yn barod ar gyfer y diwrnod casglu.

Gellir prynu bagiau ychwanegol am ffi flynyddol ychwanegol o £6.14. Ni ad-delir y ffi hon.

Cofrestru ar gyfer Casgliadau Gwastraff Gardd

Gallwch bellach gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd 2024.

I gofrestru, ffoniwch 01656 643643 a dewiswch yr opsiwn gwastraff.

Rydym yn casglu:

  • planhigion
  • blodau
  • chwyn
  • glaswellt
  • dail
  • toriadau gwrychoedd

Nid ydym yn casglu:

  • gwastraff cegin
  • gwastraff cyffredinol
  • pridd
  • rwbel
  • boncyffion coed
  • rhywogaethau ymledol fel canclwm Japan

 

Gallwch hefyd ailgylchu eich gwastraff gardd am ddim yn eich canolfan ailgylchu agosaf.

Sylwer: Os byddwch yn symud tŷ, gellir symud y casgliad i’ch cyfeiriad newydd os yw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cysylltwch â ni gyda manylion eich cyfeiriad newydd.

Cysylltu

Ffôn: 01656 643643

Chwilio A i Y