Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Canolfannau Ailgylchu Cymunedol

Mae Canolfan Ailgylchu Tythegston bellach wedi cau. Canfod eich canolfan ailgylchu lleol.

Mae tair canolfan ailgylchu gymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd. Mae’r rhain ym Mrynmenyn, Maesteg a Pîl.

Mae pob canolfan ailgylchu ar gau un diwrnod yr wythnosOriau agor.

Mae’r dyddiau cau wedi cael eu gwasgaru fel bod lleiafswm o ddau safle yn dal i fod ar gael i’r cyhoedd ar unrhyw amser, ac ar ôl astudio nifer yr ymwelwyr ym mhob safle, clustnodwyd y dyddiad lleiaf prysur ar gyfer cau.

Trefnwch eich ailgylchu cyn dod i’r ganolfan ailgylchu gymunedol i osgoi oedi. Gallwch roi bagiau o wastraff y cartref yn y sgip gwastraff cyffredinol, ond ni fyddant yn cael eu derbyn os ydynt yn cynnwys unrhyw ddeunydd y gellir ei ailgylchu.

Cofiwch y bydd y giatiau’n cael eu cau hyd at ugain munud yn gynnar efallai. Bydd hyn er mwyn rhoi lle i’r ceir sydd eisoes yn ciwio ar y safle, cyn i’r ganolfan ailgylchu gau.

Pîl

Cyfeiriad: Uned 40b Sturmi Way, Ystâd Ddiwydiannol Fferm Bentreff, Pîl, CF33 6BZ.

Oriau agor:

  • Dydd Llun: 8.30am - 7pm
  • Dydd Mawrth: ar gau
  • Dydd Mercher: 8.30am - 7pm
  • Dydd Iau: 8.30am - 7pm
  • Dydd Gwener: 8.30am - 7pm
  • Dydd Sadwrn: 8.30am - 5pm
  • Dydd Sul: 8.30am - 5pm

Maesteg

Cyfeiriad: Ystâd Ddiwydiannol Heol Tŷ Gwyn, Maesteg, CF34 0BQ.

Oriau agor:

  • Dydd Llun: 8.30am - 7pm
  • Dydd Mawrth: 8.30am - 7pm
  • Dydd Mercher: 8.30am - 7pm
  • Dydd Iau: ar gau
  • Dydd Gwener: 8.30am - 7pm 
  • Dydd Sadwrn: 8.30am - 5pm
  • Dydd Sul: 8.30am - 5pm

Bryncethin

Cyfeiriad: Ystâd Ddiwydiannol Brynmenyn, Brynmenyn, CF32 9SZ.

Oriau agor:

  • Dydd Llun: 8.30am - 7pm
  • Dydd Mawrth: 8.30am - 7pm
  • Dydd Mercher: ar gau
  • Dydd Iau: 8.30am - 7pm
  • Dydd Gwener: 8.30am - 7pm
  • Dydd Sadwrn: 8.30am - 5pm
  • Dydd Sul: 8.30am - 5pm

Trwyddedau Tipio

Os yw eich cerbyd yn fan neu dryc picyp, rhaid ei gofrestru gyda thrwydded tipio cyn ymweld â chanolfannau ailgylchu cymunedol Tythegston neu Faesteg. Mae hyn yn ein helpu ni i reoli’r gwaredu ar wastraff heb ddod o dai.

Hefyd bydd rhaid i chi gael trwydded os oes gan eich cerbyd drelar sydd rhwng 5 troedfedd a 6 troedfedd 6 modfedd (1.5m i 2m)Ni chaiff cerbydau neu drelars olwynion hir mawr sy’n fwy na 6 throedfedd (2m) ddefnyddio’r canolfannau ailgylchu cymunedol.

Nid yw ceir, jîps na cherbydau MPV, na threlars llai na 5 troedfedd, angen trwyddedau.

Sylwer nad yw canolfan Brynmenyn yn caniatáu faniau na threlars.

 

Cael trwydded dipio

Gallwch gael trwyddedau tipio am ddim trwy ffonio 01656 643643 o leiaf 48 awr cyn eich bod eisiau dod i un o’r canolfannau.

Bydd angen i chi roi’r manylion canlynol:

  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • rhestr o eitemau rydych am eu hailgylchu
  • y dyddiad a’r ganolfan rydych am fynd iddi
  • rhif cofrestru, gwneuthuriad a model eich cerbyd

Mewn rhai achosion gallai fod angen i ni edrych ar y gwastraff rydych am ei waredu cyn rhoi trwydded. Gellir gwneud hyn yn eich cartref.

Yr hyn y gallwch ei ailgylchu yn eich canolfan leol

Cyn i chi fynd i’ch canolfan ailgylchu gymunedol leol, cadarnhewch ein bod yn gallu derbyn eich gwastraff. Gallwn ailgylchu:

  • batris (car neu’r cartref)
  • beiciau
  • bric-a-brac
  • bylbiau
  • caniau
  • cardbord
  • deunyddiau plastig
  • eitemau trydanol ac electronig
  • gwastraff gwyrdd/gwastraff gardd
  • metel sgrap
  • oergelloedd/rhewgelloedd
  • olew coginio
  • olew modur
  • paent
  • papur
  • poteli a jariau gwydr
  • pren
  • pridd
  • silindrau nwy
  • tecstilau

 

Asbestos a gwastraff adeiladu

Mae asbestos yn cael ei dderbyn mewn sgip arbenigol yng nghanolfan Y Pîl ond dim ond gyda thrwydded tipio. Bydd rhaid talu ffi. Mae asbestos yn ddeunydd peryglus a rhaid cael gwared arno yn y ffordd gywir. Os caiff ei ollwng mewn sgipiau eraill yn ein canolfannau mae’n llygru gwastraff arall.

Os oes arnoch chi angen cael gware ar asbestos, cysylltwch â Kier i drefnu trwydded.

Mae bwrdd plastr, rwbel, pridd a chraidd caled yn cael eu hystyried yn wastraff adeiladu. Mae’r rhain wedi’u cyfyngu i ddau fag gydag uchafswm pwysau o 17kg yr un. Ni chaniateir ail ymweliadau o fewn y 30 diwrnod calendr nesaf. Os oes gennych symiau mawr o’r rhain, bydd angen i chi archebu sgip neu logi cwmni gwaredu gwastraff. Ni dderbynnir gwastraff masnach.

Dim ond yn y sgip plastrfwrdd fydd plastrfwrdd yn cael ei ganiatáu, ac nid yn y sgip gwastraff cyffredinol. Bydd rhaid tynnu unrhyw ddeunydd arall sydd ar y plastrfwrdd, fel teiliau, cyn ei dderbyn.

Peidiwch â gadael gwastraff y tu allan i’r canolfannau ailgylchu cymunedol. Gallech gael eich erlyn am dipio anghyfreithlon.

Cyswllt

Ffôn: 01656 643643

Chwilio A i Y