Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Menter 'Balch o'r Mislif' yn lansio yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr Halo

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Gwasanaeth Cefnogi Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth gyda Halo, lansio stondin steil 'pic-a-mics' gyda detholiad o gynnyrch ecogyfeillgar ar gyfer mislif a chynnyrch hylendid eraill sydd ar gael ei bawb, yn ardal derbynfa Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr Halo.

Mae'r digwyddiad yn rhan o fenter 'Balch o'r Mislif' Llywodraeth Cymru' - cynllun sy'n ceisio rhoi diwedd ar dlodi mislif ac i sicrhau urddas mislif yng Nghymru.  Mae darparu mynediad am ddim i gynnyrch mislif yn y gymuned yn elfen hollbwysig o'r strategaeth hon. 

Yn ogystal â'r stondin, gall unrhyw un yn y fwrdeistref sirol dan 25 oed hefyd gofrestru i gael blwch cynnyrch mislif rhad ac am ddim i gael eu hanfon at eu drws bob mis neu bob chwarter, drwy ebostio PeriodDignity@bridgend.gov.uk .  Mae cynnyrch hefyd ar gael yn rhad ac am ddim o bob ysgol gynradd ac uwchradd, Big Bocs Bwyd, prosiectau cymunedol, yn ogystal â grwpiau chwaraeon a hamdden.

Meddai Lois Sutton Swyddog Urddas Mislif o'r Tîm Cefnogi Ieuenctid: "Mae'r cynllun Urddas Mislif wedi'i anelu at wneud cynnyrch mislif ar gael ac yn hygyrch i bawb.  Mae'r cynnyrch sy'n cael eu harddangos ar y stondin yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr yn amrywiol, gydag amrywiaeth o gynnyrch eco-amgylcheddol untro a chynnyrch y mae modd ei ailddefnyddio, felly mae rhywbeth sy'n addas i bawb.

"Mae aelodau o'n Cyngor Ieuenctid wedi bod yn hanfodol wrth gynorthwyo i ddwyn ynghyd ac arwain y cynllun hwn sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb a chynaliadwyedd." 

Ychwanegodd Izzy, o'r Cyngor Ieuenctid: "Rwyf wrth fy modd bod yr holl gynnyrch naill ai yn rhai y gallwch eu hailddefnyddio neu ailgylchu - nid yn unig mae hyn yn beth anhygoel o safbwynt bod yn eco-gyfeillgar, ond mae hefyd yn golygu y gall rhywun sydd ddim wastad yn gallu cael gafael ar gynnyrch mislif a hylendid, yn syml iawn eu hailddefnyddio ar ôl eu golchi."

Ers i'r arddangosfa gael ei lansio, mae Rheolwr Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, Nick Flay, wedi sylwi mor boblogaidd mae wedi bod, ac mae'n rhagweld y bydd angen ei ailgyflenwi'n fuan.  Ychwanegodd Lois: "Rydyn ni mor falch o weld y stondin hwn yn cael ei ddefnyddio i'w lawn botensial ac edrychwn ymlaen i'r rhai eraill fod ar gael ar hyd a lled y fwrdeistref sirol er mwyn sicrhau urddas mislif i bawb."  Bydd stondinau steil 'pic-a-mics' eraill ar gael yn fuan mewn canolfannau hamdden Halo eraill, yn ogystal â chanolfannau ieuenctid ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae hwn yn gynllun gwych i fynd i'r afael â thlodi mislif - ddylai neb fyth fod dan anfantais oherwydd eu mislif. Mae delio gyda'r mater hwn yn golygu na fydd bod ar eich mislif yn golygu osgoi chwaraeon, colli gwaith, nac addysg.

Rydym yn cymryd camau gweithredol i annog pobl i ddefnyddio'r stoc rhad ac am ddim o gynnyrch mislif a chynnyrch hylendid, sy'n cynnwys brwshys dannedd a sebon. Mae'r ffaith bod cymaint o'r cynnyrch wedi cael eu cymryd eisoes yn dangos yr angen am y gwasanaeth hwn yn lleol ac yn yr ardal ehangach.

Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie

Ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn datblygu map rhyngweithiol ar eu gwefan, sy'n dangos lle mae modd cael mynediad at y cynnyrch yn rhad ac am ddim. Yn y cyfamser, gallwch wneud cais am ragor o wybodaeth drwy ebostio PeriodDignity@bridgend.gov.uk.

Llun: Arweinydd y Cyngor, Huw David; Dirprwy Arweinydd, Y Cynghorydd Jane Gebbie; Y Cynghorydd Rhys Goode ac aelodau o'r Cyngor Ieuenctid.

Chwilio A i Y