Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

'Llwybr Llwyddo' yn dangos y ffordd i ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Pencoed

Mae ale lwydaidd rhwng yr adran fusnes a'r adran gelf yn Ysgol Gyfun Pencoed wedi cael ei thrawsnewid yn ofod ysbrydoledig drwy gyfrwng cydweithrediad artistig rhwng disgyblion ac artist graffiti lleol, Tee2 Sugars.

Ar hyd y coridor, sydd wedi'i alw, yn briodol iawn yn 'Llwybr Llwyddo' ('Aspiration Alley') mae wynebau eiconig Anita Roddick, Aneurin Bevan, yr arlunydd o Fecsico sy'n torri tir newydd, Friday Khalo, ac eraill yn cael eu harddangos fel enghreifftiau gwych o'r hyn ellir ei gyflawni yn y byd ehangach y tu allan i'r ysgol, os yw dysgwyr yn anelu'n uwch.

Mae'r gwaith celf hefyd yn herio stereoteipiau a rhwystrau cymdeithasol byd gwaith i ferched drwy ddelweddau egnïol o Wonder Woman, y Black Panther, a'r gyfarwyddwraig, Greta Gerwig.  Dywedodd Tee: "Un pwrpas y gwaith celf yw annog y disgyblion i ddechrau sgwrs, i godi cwestiynau."  Mae'r arweinydd celf yn yr ysgol, Shelley Davies, yn cefnogi'r syniad hwn. 

Eglurodd Shelley bod yr ardal yn cael ei defnyddio fel ffordd o gyfannu, cyfoethogi a mwyhau'r cwricwlwm, i annog trafodaeth rhwng dysgwyr ynghylch y themâu gafodd eu harchwilio yn y dosbarth.  Meddai: "Mae'r ffigurau o fewn Llwybr Llwyddo yn rhai rydyn ni'n eu defnyddio yn ein cynlluniau dysgu ac mae'r gofod wedi dod yn estyniad o'n hystafelloedd dosbarth."

"Roedd hi'n bwysig bod gan y disgyblion ofod sy'n adlewyrchu sut beth yw bod yn ddysgwr yng Nghymru yn y 21ain Ganrif.  Y gobaith yw, drwy greu gofodau sy'n ddrych o'r disgyblion a'r byd maent yn byw ynddo, ein bod yn helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr creadigol ac entrepreneuriaid."

Trwy gyflwyno lliw a diwylliant i'r amgylchedd, mae Tee hefyd yn gobeithio ysbrydoli dysgwyr i ddewis trywydd creadigol, er mwyn dangos bod modd dilyn y llwybrau hyn.  Dywedodd: "Yr ysgol yw dechrau ein gyrfaoedd artistig. Rwy'n credu bod pob plentyn yn haeddu bod mewn amgylchedd sy'n llawn creadigrwydd a dychymyg."

Meddai un disgybl am y gofod: "Mae e tu hwnt i'r hyn ro'n i wedi'i ddychmygu. Mae'n sicr yn ysgogi'r meddwl - ac yn arddangos sawl ffigwr i'n hysbrydoli. Rwy'n teimlo'n falch i mi fod yn rhan ohono." 

Yn dilyn llwyddiant y fenter, mae'r Pennaeth Edward Jones yn bwriadu ymgorffori mwy o graffiti Tee mewn ardaloedd eraill yn yr ysgol er mwyn parhau i ddyrchafu ac ysbrydoli disgyblion.

Wedi'i adeiladu yn yr 1970au, mae cynllun allanol a mewnol Ysgol Gyfun Pencoed yn nodweddiadol o'r cyfnod hwnnw, yn arbennig felly gyda gorffeniad llwyd, diflas drwyddo draw.

Mae'r ffordd mae disgyblion a staff, mewn cydweithrediad gyda Tee, wedi cymryd perchnogaeth o'r gofod o fewn yr ysgol, yn profi mai gwneud yr hyn allwn ni gyda'r hyn sydd gennym ni yw ein prif gryfder. Er nad oedd y rhai sydd ynghlwm wrth y prosiect yn gallu newid yr adeilad ei hun, maent wedi gallu newid y tu mewn iddo i gael traweffaith bositif ar y dysgwyr.

Am fenter arbennig! Rwy'n edrych ymlaen at weld sut fydd gwaith celf graffiti yn parhau i ledaenu trwy'r ysgol i gyd, gan ddylanwadu ar staff a disgyblion fel ei gilydd! Da iawn, bawb!

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y