Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Galw ar y cyhoedd i ddweud eu dweud ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i drafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol a’r coleg

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y newidiadau arfaethedig i’r trefniadau trafnidiaeth cartref i'r ysgol neu goleg y mae disgwyl iddynt gyflawni dros £1 miliwn o arbedion cyllidebol i’r awdurdod lleol.

Mae’r newidiadau arfaethedig i’r Polisi Trafnidiaeth Cartref i’r Ysgol/Coleg fel a ganlyn:

  • Cael gwared ar drafnidiaeth i holl ddysgwyr sy’n byw o fewn y pellter statudol o ddwy filltir i’r ysgol gynradd addas agosaf, neu dair milltir o’r ysgol uwchradd addas agosaf, ac sy’n gallu cerdded i’r ysgol yn ddiogel ar lwybr dynodedig.
  • Cael gwared ar y warchodaeth ‘brawd a chwaer’ etifeddol i ddisgyblion.
  • Cael gwared ar holl drafnidiaeth i ddisgyblion meithrin (ac eithrio’r rhai sy’n mynychu eu hysgol Gymraeg neu ysgol ffydd addas agosaf).
  • Cael gwared ar holl drafnidiaeth Ôl-16 (i bob ysgol a choleg), ac eithrio disgyblion sy’n mynychu’r ysgolion canlynol:

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd; Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath; Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yr Eglwys yng Nghymru.

  • Cynnig yr opsiwn o ‘gyllideb drafnidiaeth bersonol’ fyddai’n darparu lwfans milltiroedd o 45c y filltir i rieni/gofalwyr disgyblion sydd ag ADY.

Mae nifer o newidiadau yn cael eu cynnig i drafnidiaeth addysgol - bydd rhai o’r rhain yn effeithio ar y buddion ‘etifeddol’ y byddai nifer o ddisgyblion wedi eu mwynhau yn sgil y trefniadau polisi cyn 2015. 

Er nad oes gofyniad statudol i awdurdodau lleol ddarparu trafnidiaeth ysgol neu goleg am ddim i unrhyw ddysgwr sydd dros yr oedran ysgol gorfodol, roedd polisi’r cyngor cyn 2016 yn rhoi’r hawl i ddisgyblion gael trafnidiaeth am ddim os oeddent yn byw dros filltir a hanner o’u hysgol gynradd, neu ddwy filltir o’u hysgol uwchradd. 

Pan ddaeth y polisi cyfredol (ar ôl 2016) i rym, parhaodd y trefniadau hyn i’r dysgwyr a fu’n derbyn y fath fuddion ar hyd yr amser, ond nid oeddent ar gael i ddisgyblion oedd yn megis dechrau’r ysgol, naill ai ar lefel ysgol gynradd neu uwchradd. Yn ogystal â hyn, roedd dysgwyr yn gallu ‘pasio’r’ cymhwysedd ffafriol hwn ymlaen i’w brodyr a chwiorydd iau ond byddai unig blentyn yn colli’r cyfle.

Fel rhan o’r cynigion newydd, ni fydd hyn yn berthnasol mwyach - dim ond os ydynt yn byw y tu hwnt i'r pellter statudol o ddwy filltir o ysgol gynradd, neu dair milltir o ysgol uwchradd y bydd disgyblion oed ysgol statudol yn gymwys i gael trafnidiaeth am ddim.

Newid arfaethedig arall yw’r cynnig o ‘gyllideb drafnidiaeth bersonol’ i rieni neu ofalwyr disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).  I ddisgyblion gydag ADY sy’n gymwys ar gyfer trafnidiaeth am ddim ar sail eu hanghenion penodol, cynigir ‘cyllideb' o 45c y filltir i ddarparu cymorth ariannol i rieni neu ofalwyr ar sail unigol, gan roi’r cyfle iddynt drefnu eu trafnidiaeth eu hunain i’r ysgol ar gyfer eu plentyn os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Yr unig drefniadau trafnidiaeth na fydd yn cael eu heffeithio fydd y rhai ar gyfer disgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd.

Mae gofyniad statudol i hyrwyddo’r Gymraeg, gyda’r unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol wedi’i lleoli ym Maesteg yng Nghwm Llynfi.

Ar gyfer addysg ar sail ffydd, mae cefnogi dewis unigol o ran addysg yn ganolog i bolisi cenedlaethol, yn ogystal â pholisi lleol, ac o ganlyniad, rhagwelir y bydd y ddarpariaeth trafnidiaeth yn parhau heb newid.

Mae’r gyllideb drafnidiaeth i ddysgwyr wedi bod dan bwysau ariannol sylweddol ers nifer o flynyddoedd. Mae gwariant trafnidiaeth cartref i’r ysgol neu goleg wedi cynyddu o oddeutu £6m ar ddiwedd 2020-2021, i swm amcanol o £10m ar ddiwedd 2023-2024, gydag ychydig o dan £9m yn unig ar gael yn y gyllideb gyfredol. Ers y pandemig, mae'r farchnad drafnidiaeth wedi bod yn ddirwasgedig gyda phrisiau’n codi’n sylweddol flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae’r newidiadau awgrymedig i’r polisi hwn wedi cael eu hystyried yn ofalus o ran tegwch a chynhwysiant, yn ogystal â chost. Mae’r addasiadau arfaethedig yn parhau i sicrhau y gall pob plentyn, waeth beth yw ei amgylchiadau, gael mynediad i leoliad addysg addas.

Rydym yn gwerthfawrogi barn disgyblion a’u rhieni neu ofalwyr ac rydym yn annog y rhai sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y cynigion hyn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad 12 wythnos, er mwyn rhannu barn a safbwyntiau.

Y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Gallwch gwblhau’r arolwg ar wefan y cyngor neu mae modd i chi ddweud eich dweud drwy’r ffyrdd canlynol:

Rhif Ffôn: (01656) 643 664
E-bost: Consultation@bridgend.gov.uk
Post: Tîm Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Mae ffurfiau eraill o’r arolwg hefyd ar gael ar gais.

Mae’r arolwg yn cau ddydd Mercher 3 Gorffennaf 2024.

Chwilio A i Y