Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynllun arloesol yn sicrhau dechrau iach mewn bywyd ar gyfer plant cyn oed ysgol

Mae 37 o leoliadau cyn oed ysgol ar hyd a lled Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cymryd rhan yn y Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy sy'n helpu i hyrwyddo ymddygiadau iechyd positif o oedran ifanc. 

Mae meithrinfeydd dydd, lleoliadau Dechrau'n Deg, grwpiau chwarae, gwarchodwyr plant a darparwyr Cylchoedd Meithrin (cyfrwng Cymraeg) i gyd wedi ymuno gyda'r cynllun er mwyn sicrhau bod y neges bwysig hon yn cyrraedd ystod eang o blant.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gydlynu gan Dîm Gofal Plant Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r cynllun yn cwmpasu sawl agwedd ar iechyd, gan gynnwys chwarae egnïol/gweithgarwch corfforol, iechyd emosiynol, llesiant, hylendid, diogelwch, maeth ac iechyd y geg.

Mae Dechrau'n Deg Plasnewydd, Dechrau'n Deg Betws, Grŵp Chwarae Standing to Grow a The Children's Day Nursery i gyd wedi cwblhau'r cynllun yn ddiweddar ac wedi siarad yn gadarnhaol am fuddion y rhaglen.

Dywedodd staff o Dechrau'n Deg Betws: "Rydym yn hynod falch o fod wedi cwblhau'r cynllun hwn gan iddo fod o fudd i'n dulliau ymarfer mewn cymaint o wahanol ffyrdd ac mae wedi ein helpu ni i gyflawni gradd ragorol ym mhob un o'r pedwar maes yn ein harolwg Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW). 

"Rydym wedi newid ein bwydlen byrbryd er mwyn sicrhau diet cytbwys. Er enghraifft, rydym yn tyfu ein llysiau ein hunain ac mae'r plant yn hapus i roi cynnig ar bopeth sydd ar gael, wrth ddilyn trefn hylendid ardderchog.

"Mae rhieni/gwarcheidwaid hefyd wedi mwynhau'r cysylltiadau rydym wedi'u gwneud â'n cymeriad cyswllt cartref, 'Dewi'r ddraig' sy'n eu cynorthwyo i ddatblygu ein gwaith a pharhau gyda hyrwyddo ffordd o fyw iach yn eu cartrefi eu hunain."

Mae buddion y cynllun hefyd wedi bod yn destun siarad cadarnhaol gan staff The Children's Day Nursery: "Ers dod yn rhan o'r cynllun gwych hwn, rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol nid yn unig yn iechyd a llesiant ein plant hyfryd ni, ond hefyd o'n rhan ni ein hunain fel tîm staffio.

"Rydym wedi sylwi ar gymaint o newidiadau a gwelliannau o fewn ein hamgylchedd, megis agwedd fwy cadarnhaol tuag at fwyta'n iach, mae rhai sy'n 'ffyslyd' gyda'u bwyd yn archwilio bwydydd newydd a blasus, mae ein plant wrth eu bodd yn cyfrannu at weithgareddau coginio ac mae ein staff wedi bod yn llawer mwy gweithredol ac wedi bod yn rolau model ffantastig i'n plant.

"Mae'r cynllun wedi bod yn fenter arloesol a fwriadwyd er mwyn meithrin amgylcheddau ac arferion mwy iach o fewn ein meithrinfa. "Mae plant iach yn gwneud plant hapus!"

Mae'n wych gweld bod cymaint o blant oedran cyn ysgol ar hyd a lled y fwrdeistref sirol yn cael mynediad i'r rhaglen hanfodol hon sy'n sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu'n gynnar iawn ynghylch pwysigrwydd ffordd o fyw iach.

Rydym yn arbennig o hoff o'r ffaith fod agweddau o'r cynllun hwn yn awr yn cael eu gweithredu gan ein lleoliadau cyn oed ysgol fel rhan o'u trefn ddyddiol a bod cysylltiadau gyda'r cartref hefyd wedi eu hychwanegu er mwyn atgyfnerthu’r neges bwysig hon ymhellach.

Ychwanegodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:

Chwilio A i Y