Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cadarnhau rownd newydd o waith uwchraddio gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer ardaloedd chwarae plant

Mae Sutcliffe Play (South West) a Play and Leisure Ltd wedi’u penodi fel y prif gontractwyr ar gyfer y gwaith, gyda’r uwchraddiadau cyntaf yn dechrau ddydd Llun 15 Ebrill yng Nghaeau Chwarae Newbridge, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r ardaloedd chwarae canlynol wedi’u nodi yn y rownd newydd o uwchraddiadau a fydd yn cynnwys offer newydd hygyrch a chynhwysol:

Betws: Gogledd Betws a Heol y Felin

Melin Ifan Ddu: Pentref Melin Ifan Ddu

Bracla: Ysgol Gynradd Bracla a Fox Fields

Pen-y-bont ar Ogwr: Jubilee Crescent, Caeau Newbridge a Phen y Banc

Cefn Cribwr: Caeau Chwarae Cae Gof a Chomin Mynydd Bach

Llangeinor: Heol Gelli Lodrau

Maesteg: Stryd Homfray Nantyffyllon Maesteg

Nantymoel: Waunllwyd

Pencoed: Beechwood, Heol Ewenni a Maes Hamdden Pencoed

Pontycymer: Braich y Cymer, Pont y Rhyl, Heol Pen-y-bont ar Ogwr, Victoria Street a Waunbant.

Porthcawl: Yr ardal chwarae i blant bach yn Heol-y-Goedwig, Porthcawl

Tondu: Ffordd Haearn a Park Terrace

Rydym yn hynod falch o gael cyflwyno’r rhaglen hir ddisgwyliedig hon o uwchraddiadau i ardaloedd chwarae ledled y fwrdeistref sirol.

Mae annog bob plentyn i fyw bywyd iach a phrysur yn hollbwysig i ni, ac mae hwn yn fuddsoddiad gwerth chweil yn ein barn ni

Mae pobl ifanc o wahanol alluoedd angen lle difyr a diogel i ddatblygu ac archwilio, a dyma pam rydym wedi cynllunio ar gyfer cyfarpar chwarae mwy hygyrch a chynhwysol yn yr uwchraddiadau newydd hyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli’r cyfle hanfodol i chwarae a rhyngweithio ag eraill

Y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Disgwylir y bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf 2024.

Bydd rhagor o fanylion am y rhaglen waith lawn ar gael cyn bo hir.

Chwilio A i Y