Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghori Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus

Mae’r cyngor yn bwriadu ymestyn y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus cyfredol a ddeddfwyd ym mis Mehefin 2019 oedd yn gosod cyfyngiadau ar yfed alcohol yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, Caerau a Maesteg, Pencoed a Phorthcawl ac yn cyfyngu ar y cyhoedd sy’n mynd i’r ardal ar adegau penodol rhwng Stryd Talbot a Stryd Plasnewydd, Maesteg.

Mae'r cyngor hefyd yn bwriadu ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus a gyflwynwyd ym mis Mehefin 2019, gyda'r nod o fynd i'r afael â baw cŵn a materion eraill yn ymwneud â chŵn. Mae'r gorchymyn hwn yn ymwneud â phob man agored cyhoeddus yn y fwrdeistref sirol.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 29 Ebrill 2022

 

Trosolwg

Wedi’u cynllunio i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae’r gorchmynion yn ei gwneud yn drosedd i unrhyw un barhau i yfed alcohol neu fethu ag ildio sylweddau meddwol pan fydd swyddog heddlu, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu neu swyddog awdurdodedig o'r cyngor yn gofyn iddynt wneud hynny.

O dan y gorchmynion, mae’n ofynnol hefyd i berchnogion cŵn sy’n defnyddio unrhyw fan cyhoeddus yn y fwrdeistref sirol gario bagiau, codi baw eu hanifeiliaid, cael gwared ar eu gwastraff mewn modd cyfrifol, a rhoi cŵn ar dennyn os yw swyddog yn gofyn iddynt wneud hynny. Mae unrhyw un sy’n methu â chydymffurfio mewn perygl o gael cosb benodedig o £100.

 

Cynigion

Rydym yn gofyn a ddylid ychwanegu tair blynedd arall at y gorchmynion, a ph’un a ddylid cynnwys yr ardal sy’n cael ei hadnabod fel yr ardal chwarae neu ‘Parc y Felin Wyllt’ ger Heol Cwarela ai peidio.

Rydym hefyd yn gofyn a ddylid ychwanegu gorchymyn llidiartu sy’n cyfyngu ar fynediad rhwng Stryd Talbot a Stryd Plasnewydd ym Maesteg rhwng 5:30pm-9am, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ac am 24 awr ar ddydd Sul a gwyliau banc, am dair blynedd arall.

 

Dweud eich dweud

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.

Chwilio A i Y