Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr Cynllun Llesiant Drafft

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau

Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n panel dinasyddion.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr (PSB) yn dod â sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector at ei gilydd i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Pen-y-bont ar Ogwr yn awr ac yn y dyfodol.

Rydym yn gwneud hyn trwy weithio â’n gilydd mewn ffordd sy’n gwella llesiant pobl heddiw a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r clip fideo hwn yn egluro hyn trwy Stori Megan.

Yn yr arolwg hwn mi welwch y pethau y bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr (PSB) yn canolbwyntio atynt yn ystod y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys ein nodau llesiant a’r camau y byddwn yn eu cymryd i’w cyflawni.

Ein nodau llesiant yw:

1. Y dechrau gorau mewn bywyd

2. Helpu cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i fod yn ddiogel a chydlynus

3. Lleihau anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd

4. Dewisiadau iach mewn amgylchedd iach

Mae copi llawn o’r Cynllun Llesiant, gan gynnwys gwybodaeth am Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr (PSB), ar gael yma.

Cyn mynd ati i ddatblygu’r cynllun hwn buom yn cynnal asesiad llesiant, trwy siarad â chymunedau ac edrych ar ystod eang o wybodaeth a data. Mae’r asesiad hwn wedi ein harwain yn ein dewis o nodau. Rydym am glywed eich barn chi’n awr i wybod a ydych chi’n credu mai’r rhain yw’r pethau y dylem fod yn canolbwyntio arnynt.

Sut i ymateb

Cyswllt:

Bydd cyfnod yr ymgynghoriad hwn yn cychwyn ar 31 Hydref 2017 ac yn dod i ben ar 23 Ionawr 2018.

Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n panel dinasyddion.

Chwilio A i Y